Dim arian i amddiffynfeydd môr Aberystwyth 'tan 2019'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y gwaith o glirio ar y prom yn Aberystwyth yn dilyn Storm Brian

Mae arweinydd Cyngor Ceredigion yn dweud na fydd 'na arian i wella amddiffynfeydd môr yn Aberystwyth "tan ar ôl Ebrill 2019"

Cafodd y dref ei tharo'n galed gan Storm Brian dros y penwythnos, gyda difrod i wal y prom yn dilyn gwyntoedd a llanw uchel.

Fe fydd rhan o ffordd Glan y Môr yn y dre' yn parhau ynghau tan 12:00 ddydd Mawrth wrth i'r clirio a'r atgyweirio barhau.

Wrth siarad nos Lun, dywedodd Ellen ap Gwynn bod cynlluniau ar y gweill i ddatblygu'r strwythur amddiffynnol, ond y byddai'n rhaid disgwyl 18 mis am gyllid.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "buddsoddiad bosib o hyd at £256m" ar gael i ddelio â llifogydd ac erydiad.

Disgrifiad,

Mae Ellen ap Gwynn yn gofyn a ydy cynghorau ardaloedd arfordirol yn cael eu "digolledu'n iawn" am y gwaith ar amddiffynfeydd

Fe gafodd wal y prom yn Aberystwyth ei dorri fore Sadwrn yn sgil y llanw a'r gwynt, ac fe gafodd ddifrod pellach yn ystod llanw uchel nos Sadwrn.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, doedd dim difrod i'r bandstand ac fe weithiodd y wal sy'n ei amddiffyn fel y dylai.

Dywedodd Ms ap Gwynn bod cost y glanhau y tro hwn yn "gymharol resymol" ond bod delio â llifogydd yn "fwyfwy anodd" yn sgil toriadau sydd wedi bod ac sydd i ddod.

'Dim yn gysur i neb'

Mewn buddsoddiad gwerth £22m, mae gwelliannau wedi eu gwneud yn y sir i amddiffynfeydd yn Y Borth a thraeth gogleddol Aberaeron ers 2009 - a dywedodd bod gan y cyngor gynlluniau tebyg ar gyfer Aberystwyth a'r harbwr yn Aberaeron.

"Beth ry'n ni angen gynta' yw arian i fynd ymlaen efo'r cynllunio manwl," meddai Ms ap Gwynn.

"Ond 'dan ni wedi cael gwybod na fydd 'na ddim arian cyfalaf i ddechrau ar y gwaith go iawn tan ar ôl Ebrill 2019, sydd 18 mis i ffwrdd.

"Ac os oes na fwy o stormydd, dydy hwnna ddim yn gysur yn y byd i neb."

Ychwanegodd ei bod am weld Llywodraeth Cymru yn rhyddhau mwy o arian ar gyfer amddiffynfeydd môr, gan ddweud ei fod yn "fater o ddiogelwch cenedlaethol".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd difrod yn ardal y prom wedi tywydd garw dydd Sadwrn

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud nad ydyn nhw'n credu byddai "ymestyn wal y bandstand ar draws y prom ar ben ei hun" yn ddigon i fynd i'r afael â'r risg i brom Aberystwyth.

Cyngor yr awdurdod lleol yw bod gan "berchnogion eiddo... gyfrifoldeb i sicrhau bod ganddynt amddiffyniad digonol ar lefel eiddo i ddiogelu eu priodweddau" mewn stormydd "hyd nes y caiff cynllun ei ddatblygu a'i adeiladu".

Yn ôl Llywodraeth Cymru, "lle awdurdodau rheoli risg (Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol) yw cyflwyno prosiectau i'w hystyried ar sail blaenoriaethau lleol".

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n blaenoriaethu cyllid ar sail y risg i fywyd, gan ddefnyddio'r Gofrestr Risgiau Cymunedol, sy'n cyfuno nifer o ffynonellau o risg llifogydd ochr yn ochr â thystiolaeth leol.

"Dros gyfnod y llywodraeth hon byddwn yn darparu mwy na £144m i awdurdodau lleol a CNC i leihau'r risg o lifogydd ac erydu arfordirol. Ynghyd â'r Rhaglen Rheoli Perygl i'r Arfordir, mae hyn gyfystyr â buddsoddiad bosib o £256m."