Ymgais i warchod eiddo hanesyddol rhag difrod llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion un o gartrefi Tuduraidd gorau Cymru wedi bod yn ceisio amddiffyn yr eiddo rhag mwy o ddifrod o lifogydd.
Mae Peter Welford a'i wraig Judy Corbett wedi treulio bron chwarter canrif yn adnewyddu Castell Gwydir ger Llanrwst yn Nyffryn Conwy.
Ond ers troad y ganrif mae gerddi'r castell - sydd fel yr adeilad ei hun yn eiddo cofrestredig Gradd 1 - wedi dioddef llifogydd cyson gan achosi niwed sylweddol.
Mae'r cwpwl yn credu fod gwaith i amddiffyn Dyffryn Conwy dros y blynyddoedd diweddar wedi golygu fod Castell Gwydir yn fwy tebygol o ddiodde' llifogydd, ac maen nhw'n dweud fod ceisiadau cyson i warchod y castell a'i dir wedi cael eu hanwybyddu.
Mae dros 20 o wirfoddolwyr wedi ymateb i gais ar y cyfryngau cymdeithasol am gymorth, ac wedi bod yn gosod bagiau tywod mewn mur o dros 300m er mwyn ceisio atal peth o'r dŵr rhag dod i mewn i'r ardd yn y dyfodol.
Dywedodd Mr Welford: "Does dim arall y gallwn ni wneud. Does neb arall yn gwneud dim byd.
"Mae Gwydir yn gartre rhestredig Gradd 1. Dyma'r tŷ pwysicaf o'i fath yng Nghymru, ac mae'r gerddi'n rhestredig hefyd, ond yn cael eu herydu.
"Mae seleri'r eiddo hefyd yn diodde' llifogydd parhaus ac mae'n arwain at ddifrod strwythurol.
"Does dim help i gael gan neb - Llywodraeth Cymru, CADW, Cyfoeth Naturiol Cymru ... maen nhw i gyd yn edrych y ffordd arall - dydyn ni ddim yn flaenoriaeth er fod y gyfraith yn dweud ein bod ni."
Ychwanegodd Mr Welford fod oddeutu £7m wedi cael ei wario ers 2007 ar raglen i geisio atal llifogydd yn Nyffryn Conwy, ond fod hynny wedi anwybyddu Gwydir yn llwyr.
Mewn datganiad dywedodd Keith Ivens, Rheolwr Risg Llifogydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: "Ry'n ni wedi bod yn trafod llifogydd yn y gerddi a'r seleri yng Nghastell Gwydir gyda pherchnogion y castell ers blynyddoedd lawer.
"Daeth i'n sylw ni fod y perchnogion yn bwriadu codi amddiffynfa llifogydd o amgylch Castell Gwydir yn dilyn ymgyrch i godi arian.
"Fe fyddwn yn hoffi gweithio gyda'r perchnogion i'w helpu i sicrhau fod ganddyn nhw'r caniatâd cywir mewn lle, ac i sicrhau eu bod yn gallu adeiladu yn ddiogel heb gael effaith negyddol yn rhywle arall.
"Er ein bod yn cefnogi'r gwaith mewn egwyddor, rydym wedi ysgrifennu at y perchnogion i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod fod angen caniatâd ganddom ni am unrhyw waith cyn dechrau arni.
"Daeth ein hasesiad economaidd i'r casgliad nad oedd modd i ni ariannu mwy o waith drwy ein rhaglen llifogydd, gan fod ein cynlluniau ni yn blaenoriaethu risg i fywyd."
'Angen gweithredu'
Dywedodd Judy Corbett y bydd hi a'i gŵr yn parhau i osod bagiau tywod ac yn gwneud cais i wneud y gwaith ar ôl ei gwblhau.
Ond ychwanegodd fod angen i asiantaethau Llywodraeth Cymru weithredu os am osgoi gweld difrod parhaol i Gastell Gwydir.
"Os yw'r Cynulliad yn rhoi gwerth ar dreftadaeth, ac am gymryd treftadaeth o ddifri', yna mae'n rhaid iddyn nhw ein helpu ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018