Cyfoeth Naturiol Cymru: 'Angen amddiffynfeydd newydd'

  • Cyhoeddwyd
AberaeronFfynhonnell y llun, Shane Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o gychod eu difrodi yn harbwr Aberaeron dros y penwythnos

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio y bydd nifer o gymunedau angen amddiffynfeydd newydd wedi i sawl afon orlifo yn ystod Storm Callum.

Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi dweud y byddai'n "ailystyried y blaenoriaethau" o ran gwariant ar amddiffynfeydd llifogydd.

Fe ddioddefodd trefi a phentrefi ger afonydd Tywi, Teifi, Taf, Cynon, Nedd ac Wysg y llifogydd gwaethaf yng Nghymru ers 30 mlynedd.

Cafodd dyn 21 oed o Gastellnewydd Emlyn, Corey Sharpling, ei ladd wedi tirlithriad yng Nghwmduad yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd rhieni Mr Sharpling eu bod wedi torri eu calonnau o golli mab prydferth a oedd yn berson doniol a theyrngar.

Mae'n debyg bod y llifogydd hefyd wedi effeithio ar nifer fawr o ffermwyr, wrth i RSPCA Cymru ddweud bod hyd at 70 o ddefaid wedi marw mewn llifogydd ym Mhontargothi, Sir Gâr.

'Adolygiad mawr'

Ar y Post Cyntaf, dywedodd Carwyn Jones: "Bydd adolygiad i weld os oes mwy allwn ni ei wneud er mwyn osgoi sefyllfa fel hyn..."

"Mae wastad arian ar gael ynglŷn â llifogydd, ni wedi buddsoddi llawer o arian dros y blynyddoedd, ond be' sy'n bwysig yw ein bod ni'n ystyried ble dylai'r blaenoriaethau fod, mae 'na raglen gyda ni fel llywodraeth, ond rhaid gweld os oes isie ailystyried y blaenoriaethau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith clirio wedi dechrau mewn sawl ardal yng Nghymru wedi penwythnos o dywydd garw

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn dweud y byddan nhw'n adolygu'r amddiffynfeydd llifogydd ar draws yr ardaloedd gafodd eu taro.

"Bydd yna adolygiad mawr ynglŷn â'r llifogydd a'r amddiffynfeydd," meddai Huwel Manley, un o reolwyr CNC.

"Bydd nifer o drefi a chymunedau yn galw am amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd - mannau sydd heb amddiffynfeydd ar hyn o bryd."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Aled Scourfield

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Aled Scourfield

Tirlithriad Cwmduad

Bu farw dyn ifanc mewn tirlithriad "anferth" yng Nghwmduad yn Sir Gaerfyrddin brynhawn dydd Sadwrn.

Roedd Corey Sharpling yn 21 oed ac yn byw yng Nghastellnewydd Emlyn.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys roedd swyddogion yn bresennol ar y pryd pan ddigwyddodd y tirlithriad.

Ffynhonnell y llun, Llun y teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Corey Sharpling yn un o bedwar o blant

Mae'n debyg fod Mr Sharpling wedi bod yn teithio ar fws First Cymru cyn y digwyddiad.

Yn ôl adroddiadau roedd ar ei ffordd i'r gwaith ym mwyty McDonalds yng Nghaerfyrddin.

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Mr Sharpling: "Rydyn ni'n torri'n calonnau ar ôl colli ein mab, Corey".

Mae'r ymchwiliad i union amgylchiadau ei farwolaeth yn parhau.

Siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a de Powys ddioddefodd waethaf, ac roedd llifogydd a thrafferthion i draffig mewn sawl man.

Mae nifer o ffyrdd yn parhau ar gau ac mae rhybudd i yrwyr fod yn ofalus.

Fe dorrodd afon Tywi drwy amddiffynfeydd llifogydd ger cylchfan Llangynnwr, Caerfyrddin yn hwyr brynhawn Sadwrn, ac roedd pryderon y byddai'r llanw uchel yn achosi i'r dŵr lifo uwchben y waliau.

Mae'r cynghorydd sir, Alun Lenny, yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i edrych o'r newydd ar y wal, am fod dŵr afon Tywi lai na metr o ben yr amddiffynfeydd nos Sadwrn.

Disgrifiad,

Y cynghorydd Alun Lenny yn bryderus iawn wedi i afon Tywi dorri drwy amddiffynfeydd yn ardal Pen-sarn

Parhau hefyd mae'r gwaith clirio yn Llandysul wedi i bobl gael eu gorfodi i adael eu cartrefi ar Ffordd Yr Orsaf yn y dref brynhawn Sul - mae nifer o gartrefi a busnesau wedi eu difrodi.

Disgynnodd bron i 13cm o law ym Mhontsenni ym Mhowys mewn 72 awr, ac ar un adeg roedd nerth y gwynt yn 60mya yn Aberdaugleddau yn Sir Benfro.

Bu bron i drigolion Aberdulais ger Castell-nedd orfod gadael eu cartrefi wrth i afon Nedd orlifo.

Bu'n rhaid gwagio trên ym Mhenriw-ceibr ger Aberpennar wedi iddo fynd i drafferthion oherwydd y tywydd.

Disgrifiad,

Tirlithriad mawr dros y ffordd ger Llandysul

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alix Bryant o Llandysul Paddlers fod difrod i'r ganolfan wedi bod yn "dorcalonnus"

Mae Alix Bryant yn gweithio yng nghanolfan awyr agored Llandysul Paddlers yn ardal Pont-tyweli, ac mae'n un o nifer o fusnesau yn yr ardal sydd wedi'u dinistrio yn sgil y tywydd garw.

"Roedd y dŵr yn codi cyn i ni wybod beth oedd yn mynd ymlaen," meddai.

"Doedd gennym ni ddim amser i symud dim. Roedd 'na afon yn rhedeg drwy'r ganolfan ar un pwynt. Bob man roedden ni'n edrych roedd 'na ddŵr.

"'Dyn ni wedi bod yn mynd am dros 20 mlynedd ac roedd e'n dorcalonnus i weld rhywbeth oedden ni wedi'i adeiladu ar hyd y blynyddoedd yn mynd gyda'r llif, a ni methu gwneud dim am y peth.

"Roedd pŵer y dŵr yn anhygoel."

Dywedodd ei bod wedi'i "rhyfeddu gan garedigrwydd pobl" ar ôl i rywun sefydlu tudalen ar-lein, sydd eisoes wedi codi bron i £10,000 i'r ganolfan.

Mae ffordd y A4042 rhwng Y Fenni a Phont-y-pŵl yn parhau ynghau i'r ddau gyfeiriad yn Llanelen yn Sir Fynwy wedi i Afon Wysg orlifo.

Mae ffordd yr A484 rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi ar gau yng Nghenarth, Llechryd, Cynwyl Elfed a Chastellnewydd Emlyn.

Mae 'na rybudd hefyd y gall teithwyr trenau rhwng Abertawe a Chaerfyrddin a rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno wynebu trafferthion.

Mae disgwyl y bydd bysiau yn lle trenau yn teithio rhwng Abertawe ac Amwythig tan ddydd Mawrth oherwydd y llifogydd difrifol yn ardal Llandeilo.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd, llifogydd a theithio yn eich ardal chi, ewch i'r gwefannau yma: