Fideo dadleuol: Comisiynydd yn camu'n ôl o ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Syr Roderick EvansFfynhonnell y llun, senedd.tv
Disgrifiad o’r llun,

Syr Roderick Evans ydy Comisiynydd Safonau'r Cynulliad

Mae Comisiynydd Safonau'r Cynulliad wedi penderfynu mai person gwahanol, ac nid ef ei hun, ddylai fod yn gyfrifol am ailymchwilio i fideo dadleuol.

Roedd Syr Roderick Evans dan bwysau ar ôl cyhoeddi bwriad i adolygu ei benderfyniad ei hun bod fideo gafodd ei gyhoeddi gan arweinydd UKIP yng Nghymru, Gareth Bennett, ddim yn rhywiaethol" a "fisogynistaidd".

Yn y fideo - sydd bellach wedi ei ddileu o wefan YouTube - roedd delwedd o wyneb yr AC Llafur, Joyce Watson wedi ei gosod ar gorff barforwyn mewn ffrog â gwddf isel.

Mewn ymateb i alwadau gan BBC Cymru, fe gadarnhaodd y cyn farnwr ei fod yn credu y byddai'n well pe bai comisiynydd dros dro yn delio â'r achos.

Cafodd y pwyllgor safonau wybod am ei benderfyniad ar fore dydd Mawrth.

Dywedodd Syr Roderick ddechrau mis Hydref y byddai'n cynnal adolygiad ar ôl i sawl AC Llafur, gan gynnwys gweinidogion, fynnu i'r penderfyniad gael ei ailystyried.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Joyce Watson gwyno am y fideo gafodd ei rannu gan Gareth Bennett

Mewn datganiad, dywedodd Syr Roderick ei fod wedi derbyn ceisiadau iddo ail-edrych i'r achos ond "nid yw'r weithdrefn a bennwyd gan y Cynulliad yn darparu ar gyfer ailystyried".

Gan bod "pob un o'r tri chais yn cynnwys cwyn am y fideo" dywed ei fod "wedi penderfynu trin y ceisiadau hyn fel cwynion newydd".

Ychwanegodd: "O ystyried fy mod eisoes wedi ystyried y mater hwn, byddai'n well bod Comisiynydd Dros Dro yn ystyried y materion o'r newydd.

"Felly, rwyf wedi gofyn i'r Prif Weithredwr ofyn am gymeradwyaeth y Cynulliad i benodi Comisiynydd Dros Dro ar gyfer Safonau i ystyried y cwynion newydd hyn."

Dywedodd hefyd ei fod yn gweithio gyda'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad a'r prif weithredwr "i ehangu'r arbenigedd sydd ar gael i swyddfa'r Comisiynydd Safonau" er mwyn ystyried amrywiaeth eang o gwynion.