Beirniadu penodiad pennaeth newydd Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-brif weithredwr Cyngor Lerpwl wedi'i benodi yn gadeirydd dros dro yr asiantaeth amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths mae gan Syr David Henshaw brofiad eang, ond mae Plaid Cymru wedi cwestiynu'r penodiad.
Bydd Syr David Henshaw yn goruchwylio gwaith y corff - sy'n gyfrifol am bopeth o warchod bywyd gwyllt i fonitro gorsafoedd ynni - am y flwyddyn nesa'.
Roedd y cadeirydd blaenorol, Diane McCrae, wedi ymddiswyddo yn dilyn sgandal ynglŷn â chytundebau gwerthu coed.
Hanes 'dadleuol'
Yn ogystal â bod yn gyn-brif weithredwr Cyngor Lerpwl, mae Syr David wedi cadeirio sawl corff iechyd yn y gogledd orllewin gan gynnwys Ysbyty Alder Hey.
Dywedodd Lesley Griffiths ei fod wedi cynorthwyo nifer o fyrddau iechyd er mwyn eu cefnogi dros dro fel cadeirydd.
Wrth groesawu'r penodiad dywedodd prif weithredwr CNC, Clare Pillman: "Mae ei brofiad yn amlwg ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio ag e i ddelio a'n blaenoriaethau."
Ond yn ôl Plaid Cymru mae'n "ffigwr dadleuol" o'i gyfnod yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus yng ngogledd orllewin Lloegr, a does ganddo ddim profiad digonol yn y maes amgylcheddol.
Dywedodd Llyr Gruffydd AC fod 22 o Aelodau Seneddol gogledd-orllewin Lloegr wedi arwyddo llythyr agored yn dilyn ei benodiad fel cadeirydd Bwrdd Iechyd y Gogledd- Orllewin, yn dweud nad oedden nhw'n medru cydweithio â Syr David.
Ychwanegodd y naturiaethwr Iolo Williams mewn neges tafod-yn-ei-foch ar Twitter fod Syr David Henshaw yn "benodiad perffaith", gan ychwanegu: "Dim profiad o faterion gwledig Cymru na chadwraeth, a hanes o fod yn gyfrifol am doriadau i gyllidebau a staffio."
Mewn ymateb i feirniadaeth Plaid Cymru dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r penodiad yma wedi cael ei gymeradwyo gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
"Mae hon yn swydd 12 mis ble bydd defnydd yn cael ei wneud o brofiad helaeth David Henshaw mewn rheoli."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd7 Awst 2018