Hanes hen dafarn enwog Trawsfynydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyddiad 1610 yn dal i'w weld ar ffrâm garreg y drws i adeilad hanesyddol Rhiw Goch, Trawsfynydd ond mae'r drws mawreddog a thu mewn yr adeilad wedi ei losgi'n ulw ar ôl tân yn oriau mân dydd Sul, 14 Hydref.
Yn ôl swyddogion tân mae 100% o'r adeilad rhestredig Gradd II wedi ei losgi.
Mae'r dyddiad a'r llythrennau uwchben y drws yn rhoi cip ar hanes yr adeilad fu'n gartref i Sant ac Aelod Seneddol ac sydd wedi ei alw'n "drysor cenedlaethol hanesyddol".
Roedd y tŷ yn gartref i deulu'r Llwydiaid yn y 15fed, 16eg, a'r rhan o'r 17eg ganrif, a'r teulu'n honni eu bod yn ddisgynyddion i Owain Gwynedd.
Llythrennau cyntaf enw Robert Lloyd, Ustus Heddwch ac Aelod Seneddol dros Feirionnydd ym 1586 a 1601, sydd uwchben y drws.
Y Sant o Drawsfynydd
Ond efallai fod y plasdy'n fwyaf enwog am stori ryfeddol un o blant eraill Rhiw Goch a gafodd ei wneud yn Sant.
Mae stori'r merthyr John Roberts yn gosod ardal Trawsfynydd ynghanol hanes crefydd yng Nghymru, Lloegr ac Ewrop.
Ganwyd John Roberts yma yn 1577 yn fab i Robert ac Anna Roberts ac, fe gredir, yn gefnder i'r AS Robert Lloyd.
Ar ôl cael ei addysg gynnar gan hen fynach o Abaty Cymer aeth ymlaen i'r coleg yn Rhydychen ac i astudio'r gyfraith yn Llundain.
Ymunodd â'r ffydd Gatholig tra roedd yn teithio yn Ffrainc a Sbaen a dod yn fynach a sefydlu priordy yn Douai, gogledd Ffrainc - mae'r fynachlog yn dal i fodoli heddiw fel Abaty Downside ger Caerfaddon yn Lloegr.
Dyma gyfnod erlid Catholigion yn Lloegr ond John Roberts oedd y mynach cyntaf i ddod nôl i Loegr wedi'r Diwygiad Protestanaidd.
Cynllwyn Guto Ffowc
Daeth nôl sawl gwaith i genhadu a helpu dioddefwyr y Pla Du - a chael ei ddal gan yr awdurdodau Protestannaidd, ei garcharu a'i alltudio sawl gwaith.
Mae'n cael ei gysylltu hefyd â chynllwyn Guto Ffowc i ffrwydro'r senedd ym mis Tachwedd 1605 - cafodd ei arestio ar ôl i'r awdurdodau gael hyd iddo yn nhŷ gwraig gyntaf Thomas Percy, un o'r cynllwynwyr.
Daeth yn ôl i Loegr am y tro olaf yn 1610 a chael ei arestio a'i gyhuddo o fod yn fradwr a'i ddedfrydu i farwolaeth.
Cafodd John Roberts ei grogi, ei ddadberfeddu a'i chwarteru ar Ragfyr 10, 1610, yn 33 oed. Yr un flwyddyn ag sydd wedi ei gerfio uwchben y drws yn Rhiw Goch.
Yn ôl yr hanes mae rhannau o'i gorff wedi eu gwasgaru dros Ewrop - yn Douai yn Ffrainc, Santiago de Compostella yn Sbaen, yn Taunton yn Lloegr ac adref yng Nghymru: dywedir fod un o'i fysedd yn Eglwys y Groes Sanctaidd yng Ngellilydan.
Cafodd ei wneud yn Sant gan y Pab Pawl VI ar 25 Hydref, 1970.
Priododd wyres Robert Lloyd fab Syr John Wynn o Wydir ac yn y 17fed Ganrif roedd Rhiw Goch yn dŷ bonedd i deulu'r Wynn.
Yn ôl erthygl gan Les Darbyshire yn y papur lleol Llafar Bro, dolen allanol, fe wnaeth ffermdy Rhiw Goch ffynnu tan ddechrau'r 20fed Ganrif pan gafodd ei phrynu gan y Swyddfa Ryfel a'i addasu ar gyfer defnydd y fyddin.
Cafodd ei droi'n westy tua 1956.
Codi o'r llwch?
Ers hynny mae wedi bod yn ganolfan boblogaidd gyda llethr sgio a chabannau gwyliau gerllaw wedi denu pobl leol ac ymwelwyr yno dros y blynyddoedd a nosweithiau cerddorol hefyd.
Yn siarad ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru dywedodd yr hanesydd a'r cynghorydd lleol Keith O'Brien bod yr adeilad yn "drysor cenedlaethol hanesyddol".
"Man geni John Roberts y sant, cartra' i'r Llwydiaid am dros 300 mlynadd, officers' mess wedyn," meddai.
"Lle efo hanes pwysig iddo fo'n llên gwerin Cymru. Yn y 70au, ar nos Wenar, roedd hi'n bron yn amhosib mynd mewn yna - grwpiau megis Geraint Jarman, Mynediad am Ddim, Geraint Løvgreen... yn chwarae yna - mi oedd o'n lle hynod boblogaidd.
"Mae'n mynd i fod yn drist ofnadwy heb y lle.
"Oedd o'n adeilad sylweddol - dwi'n meddwl mod i'n iawn i dd'eud mai hwn oedd yr adeilad mwyaf ym mhlwyf Trawsfynydd o ran maint.
"Os ydy'r ewyllys yna ac os ydy'r gymuned yn gryf ac y tu ôl i'r peth, dwi'n meddwl ella fysa posib codi rwbath allan o'r llwch."
Efallai o ddiddordeb: