Achos llofruddiaeth: 'Disgwyl cyfnod o garchar'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio pensiynwr yn Abertawe wedi dweud wrth reithgor ei fod yn disgwyl cael ei anfon i garchar am gyfnod hir.
Mae Jonathan Donne, 42, ynghyd â Gemma Owen, 31, a Simon Cairns, 46, wedi ei gyhuddo o lofruddio John 'Jack' Williams yn ystod lladrad yn ei gartref yn ardal Bonymaen ym mis Mawrth.
Mynnodd Mr Donne nad oedd yn berson treisgar er ei fod wedi ei gael yn euog o ddynladdiad yn y gorffennol.
Cafodd y pensiynwr 67 oed ei ddarganfod ar lawr ei ystafell fyw gyda'i ddwylo wedi eu clymu y tu ôl i'w gefn.
Wrth gael ei groesholi yn Llys y Goron Abertawe am yr hyn ddigwyddodd, dywedodd Mr Donne: "Fe wnes i ei daro, fe wnes i ei glymu ac fe wnes i gymryd ei gyffuriau.
"Fe wnes ei ddyrnu, ddwy neu dair gwaith o bosib, i ochr ei wyneb. Roedd e'n cwffio nôl a bod yn onest.
"Roedd o dal yn fyw pan es i lan y grisiau a dwi'n eithaf sicr ei fod dal yn fyw pan wnes i adael.
"Rwy'n gwybod fy mod wedi gwneud rhywbeth anghywir a dwi'n gwybod fy mod yn mynd i garchar am amser hir." meddai.
'Chwilio am gyffuriau'
Dywedodd Mr Donne wrth y llys fod ef a'i ffrind Simon Cairns wedi bwriadu dwyn oddi wrth Mr Williams, ar ôl clywed fod y pensiynwr yn tyfu canabis.
Honnodd mai Mr Cairns oedd wedi sôn gyntaf am y posibilrwydd.
Wrth gael ei groesholi gan Christopher Clee, ei gyfreithiwr, ddydd Mercher dywedodd Mr Donne nad oedd wedi bwriadu anafu Mr Williams.
Dywedodd yn llawn dagrau: "Allai ddim credu ei fod wedi digwydd ei fod yn farw. Allai ddim credu, fe wnes i ond ei glymu."
Dywedodd ar ôl dianc gyda chyflenwad o gyffuriau ei fod wedi dechrau poeni am gyflwr Mr Williams, a'i fod wedi cynnig cymryd tacsi yn ôl i'r eiddo.
'Dim record o drais'
Ddydd Iau wrth gael ei groesholi gan Siobhan Grey QC, cyfeithiwr Gemma Owen, mynnodd Mr Donne nad oedd yn ddyn treisgar, er ei fod wedi ei gael yn euog o ddynladdiad cyn gariad yn y gorffennol.
"Does gennyf ddim record o drais, "meddai Mr Donne. "Just un o ddynladdiad. Mae hynny yn un trasiedi."
Dywedodd ei fod wedi bod mewn perthynas cariadus gyda Gemma Owen tua mis cyn marwolaeth Mr Williams.
Gwadodd ei fod wedi bod yn dreisgar tuag at ei gariad.
Dywedodd ei fod wedi ceisio amddiffyn Gemma Owen rhag gweld yr ymosodiad ar Mr Williams.
Wrth ddisgrifio'r digwyddiadau ar 29 Mawrth dywedodd: "Fi oedd y cyntaf i mewn, fe wnes i ei glymu.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl iddi hi (Gemma Owen) ddod i'r tŷ felly fe wnes i ei hanfon i fyny grisiau."
Dywedodd iddo sylweddoli yn syth fod Miss Owen yn adnabod Mr Williams, a'i bod hi wedi mynd i banig. Ychwanegodd iddo ddweud wrthi "rho dy hwd lan" er mwyn iddo beidio ei hadnabod.
Fe wnaeth Ms Grey ofyn i Mr Donne pam iddo wrthod galw 999 ar ôl iddo honni ei fod yn bryderus am gyflwr Mr Williams.
"Roeddem am gael tacsi yn ôl, er mwy gweld os oedd o'n iawn," meddai. "Doeddwn ddim yn credu ei fod wedi marw, neu fod unrhyw beth drwg wedi digwydd."
Mae'r tri diffynnydd yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, dynladdiad a lladrata ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd17 Awst 2018