Prif Weinidog yn cwestiynu cronfa argyfwng llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cwestiynu penderfyniad cyngor sir i sefydlu cronfa argyfwng ar gyfer pobl wnaeth ddioddef o ganlyniad i'r llifogydd diweddar.
Dywedodd Cyngor Sir Gâr y bydd cronfa o £300,000 ar gael er mwyn helpu busnesau a chartrefi yn y sir wnaeth ddioddef yn ystod y llifogydd gwaethaf i daro'r ardal ers 30 o flynyddoedd.
Ond yn dilyn ymweliad â'r ardal, mae'n ymddangos nad yw Carwyn Jones yn cefnogi'r syniad, ar ôl iddo awgrymu y gallai'r arian gael ei wario ar amddiffynfeydd yn hytrach na glanhau'r difrod.
Hefyd, gwrthododd Mr Jones ddweud a fyddai Llywodraeth Cymru yn rhoi arian ychwanegol i awdurdodau sy'n ysgwyddo'r baich ychwanegol yn sgil Storm Callum.
Yn Llechryd yng Ngheredigion ddydd Iau, dywedodd fod y "trafodaethau yn parhau".
Cafodd Mr Jones ei holi a fyddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa argyfwng ar gyfer unigolion, a dywedodd: "Mae'n ddewis iddyn nhw [y cynghorau] os ydynt am roi iawndal i bobl.
"Ond byddai rhai yn dweud y dylai arian o'r fath fynd i gryfhau amddiffynfeydd. Mae hynny'n fater iddyn nhw, mae hynny'n ddewis iddyn nhw beth maen nhw am wneud gyda'u harian."
Cyngor Sir Gâr yw'r unig awdurdod i gynnig arian o'r fath hyd yn hyn.
'Cefnogi pobl'
Mewn ymateb dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole: "Dyw hwn ddim yn sefyllfa o un neu'r llall.
"Rydym eisoes wedi buddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd, er taw Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â'r prif gyfrifoldeb am hynny.
"Rydym yn falch o gefnogi pobl ein cymunedau, y rhai sydd â'r angen mwyaf am ein help.
"Ein harian ni yw eu harian nhw, ac rydym yn falch o roi help pan maen nhw ei angen," meddai.
Ychwanegodd: "Rydym yn falch fod y prif weinidog wedi ymweld â Sir Gaerfyrddin heddiw i weld y difrod i'n cymunedau a'n busnesau, a byddwn yn falch o unrhyw gymorth ariannol mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei roi."
Cafodd ardaloedd ar hyd Afon Teifi yng Ngheredigion hefyd eu heffeithio gan lifogydd.
Bu'n rhaid i Delyth Jones o Lechryd achub ei mam drwy ddefnyddio tractor ar ôl i wyth troedfedd o ddŵr daro'r tŷ.
"Hwn yw'r trydydd tro i Lechryd ddioddef, a hwn yw'r gwaethaf rwyf i wedi ei weld," meddai.
"Wnaeth yr amddiffynfeydd ddim gweithio. Roedd y dŵr yn dod trwy'r lloriau a'r system garthffosiaeth."
Cafodd 79 eiddo yng Ngheredigion eu heffeithio gan lifogydd, ond does gan y cyngor ddim cynlluniau i gynnig cymorth ariannol.
Dywedodd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion: "Y cyngor rwyf i wedi ei gael ydy nad ydym yn gallu defnyddio arian cyhoeddus i roi yn uniongyrchol i bobl. Bydda'n rhaid i arian o'r fath fod yn rhoddion gwirfoddol."
Dywedodd Carwyn Jones ei fod wedi ei synnu o ran lefel y dŵr yn Llechryd, dywedodd mai'r flaenoriaeth yw gweld pa brosiectau sydd eu hangen i reoli llif yr afon.
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn amddiffynfeydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2018