Cyngor sir yn sefydlu cronfa i ddioddefwyr llifogydd

  • Cyhoeddwyd
Gweinidog yr Amgylchedd ym Mhont-tyweli
Disgrifiad o’r llun,

Gweinidog yr Amgylchedd ym Mhont-tyweli, ger Llandysul

Mae cyngor sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi y bydd cronfa o £100,000 ar gael i helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd diweddar yn sgil Storm Callum.

Fe fydd yn rhaid i bobl wneud cais unigol am unrhyw daliadau o'r gronfa frys.

Mae perchnogion 12 o dai ym mhentre' Pont-tyweli sydd ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion hefyd wedi clywed y byddant yn derbyn £200 yn ychwanegol ar gyfer costau atgyweirio.

Doedd gan y rhan fwyaf o gartrefi ddim yswiriant, gyda thrigolion yn dweud fod y gost o yswirio yn rhy uchel.

Ddydd Mawrth fe wnaeth Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, gwrdd â thrigolion gan annog iddynt ymuno a chynllun yswiriant arbennig o'r enw Flood Re - cynllun arbenigol sy'n cynnig termau ffafriol i bobl sy'n byw mewn ardal llifogydd.

Daw ei hymweld ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru rybuddio y bydd nifer o gymunedau angen amddiffynfeydd newydd wedi i sawl afon orlifo.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd wedi dweud y byddai'n "ailystyried y blaenoriaethau" o ran gwariant ar amddiffynfeydd llifogydd.

Fe ddioddefodd trefi a phentrefi ger afonydd Tywi, Teifi, Taf, Cynon, Nedd ac Wysg y llifogydd gwaethaf yng Nghymru ers 30 mlynedd.

Cafodd dyn 21 oed o Gastellnewydd Emlyn, Corey Sharpling, ei ladd wedi tirlithriad yng Nghwmduad yn Sir Gaerfyrddin.

Mae disgwyl i gwest i'w farwolaeth gael ei agor yn ddiweddarach dydd Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Tai yn Ffordd yr Orsaf, Pont-tyweli, ger Llandysul

Disgrifiad o’r llun,

Gweithdy coed ym Mhont-tyweli

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn dweud y byddan nhw'n adolygu'r amddiffynfeydd llifogydd ar draws yr ardaloedd gafodd eu taro.

"Bydd yna adolygiad mawr ynglŷn â'r llifogydd a'r amddiffynfeydd," meddai Hywel Manley, un o reolwyr CNC.

"Bydd nifer o drefi a chymunedau yn galw am amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd - mannau sydd heb amddiffynfeydd ar hyn o bryd."

Siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a de Powys ddioddefodd waethaf, ac roedd llifogydd a thrafferthion i draffig mewn sawl man.

Disgrifiad,

Tirlithriad mawr dros y ffordd ger Llandysul

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alix Bryant o Llandysul Paddlers fod difrod i'r ganolfan wedi bod yn "dorcalonnus"

Mae Alix Bryant yn gweithio yng nghanolfan awyr agored Llandysul Paddlers yn ardal Pont-tyweli, ac mae'n un o nifer o fusnesau yn yr ardal sydd wedi'u dinistrio yn sgil y tywydd garw.

"Roedd y dŵr yn codi cyn i ni wybod beth oedd yn mynd ymlaen," meddai.

"Doedd gennym ni ddim amser i symud dim. Roedd 'na afon yn rhedeg drwy'r ganolfan ar un pwynt. Bob man roedden ni'n edrych roedd 'na ddŵr.

"'Dyn ni wedi bod yn mynd am dros 20 mlynedd ac roedd e'n dorcalonnus i weld rhywbeth oedden ni wedi'i adeiladu ar hyd y blynyddoedd yn mynd gyda'r llif, a ni methu gwneud dim am y peth.

"Roedd pŵer y dŵr yn anhygoel."

Dywedodd ei bod wedi'i "rhyfeddu gan garedigrwydd pobl" ar ôl i rywun sefydlu tudalen ar-lein, sydd eisoes wedi codi bron i £10,000 i'r ganolfan.