Price yn dewis aelodau mainc flaen Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cabinet cysgodol Plaid CymruFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi dewis ei dîm i'r fainc flaen yn y Cynulliad.

Un o'i wrthwynebwyr am yr arweinyddiaeth, Rhun ap Iorwerth, fydd llefarydd y blaid ar yr economi a chyllid.

Llefarydd y blaid ar dai a chyfiawnder cymdeithasol fydd y cyn-arweinydd, Leanne Wood.

Plaid Cymru yw'r drydedd blaid fwyaf yn y Senedd, gyda 10 Aelod Cynulliad.

Mae Helen Mary Jones, wnaeth ddychwelyd i'r Cynulliad wedi ymadawiad Simon Thomas, yn llefarydd ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Siân Gwenllian fydd yn cynrychioli'r blaid ar addysg a'r iaith Gymraeg, Llŷr Gruffydd ar faterion gwledig, ac mae Steffan Lewis yn cadw ei swydd yn llefarydd ar faterion allanol.

Bethan Sayed sy'n gyfrifol am addysg ôl-16, sgiliau ac arloesi i'r blaid, a bydd Dai Lloyd yn llefarydd llywodraeth leol, gofal a gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Mr Price ei fod yn "falch" wrth gyhoeddi'r tîm, a bod hi'n "anrhydedd i arwain cabinet cysgodol cryf ac unedig".