Cwyn swyddogol am hiliaeth tuag at Ashley Williams

  • Cyhoeddwyd
Ashley WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ryan Giggs ddisgrifio perfformiad Capten Cymru, Ashley Williams yn y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon fel un "arbennig"

Mae cefnogwr wedi gwneud cwyn swyddogol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ar ôl clywed cefnogwr arall yn gweiddi sylwadau hiliol "erchyll" tuag at gapten Cymru, Ashley Williams.

Mae Ashley Drake o Gaerdydd yn honni iddo glywed dyn arall yn beirniadu perfformiad amddiffynnwr Cymru a Stoke City cyn gwneud sylw hiliol yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Fawrth.

Er mai digwyddiad unigol oedd hyn, mae Mr Drake yn dweud bod "dyletswydd ar gefnogwyr ac aelodau o gymdeithas i herio hiliaeth" pan maen nhw yn ei glywed.

Mae CBDC wedi ymateb drwy ddweud nad ydyn nhw'n "goddef unrhyw fath o hiliaeth".

'Croesi'r llinell'

Mae Mr Drake wedi bod yn teithio i gemau oddi cartref Cymru ers blynyddoedd, ac wedi iddo glywed y sylw hiliol fe ddywedodd wrth y dyn oedd yn gyfrifol y dylai deimlo cywilydd drosto'i hun.

Dywedodd fod yr unigolyn "wedi croesi'r llinell, felly fe roddais lond ceg iddo".

Ychwanegodd fod "tri neu bedwar person arall" wedi mynd ato yn ddiweddarach i ddweud da iawn, ond gofynnodd: "Ble oedd y bobl yma pan ddigwyddodd hyn yn y lle cyntaf?"

Disgrifiad,

Sylwadau 'anfaddeuol'

Mae ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, sy'n cynnal diwrnod ymgyrchu ddydd Gwener, wedi dweud eu bod yn "hynod siomedig" i glywed yr honiad.

Dywedodd Noam Devey o'r ymgyrch nad oedd yr adroddiadau yn syndod iddo: "Dyw e ddim yn synnu fi yn anffodus, dwi'n gweld pethau fel hyn yn fy ngwaith bob dydd.

"Ond 'da ni'n gwybod nad oes lle i hyn mewn chwaraeon, ac mae'n bwysig sefyll yn erbyn pethau fel hyn."

Roedd Ashley Williams yn un o sêr y gêm yn Nulyn, gyda'r rheolwr Ryan Giggs yn canu clodydd ei gapten ar y diwedd ac yn disgrifio ei berfformiad fel un "arbennig".

Disgrifiad,

'Dyletswydd' ar bobl i herio hiliaeth

Mewn datganiad dywedodd y gymdeithas bêl-droed eu bod yn "annog unrhyw gefnogwyr sy'n profi unrhyw fath o hiliaeth i adrodd y mater i stiwardiaid CBDC sy'n bresennol mewn gemau cartref ac oddi cartref, Cymdeithas Cefnogwyr Cymru neu wrth y gymdeithas bêl-droed er mwyn iddyn nhw ymchwilio".

"Bydd CBDC yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, er mwyn cynnal gweithdai addysgiadol ar hyd a lled y wlad."