Dadorchuddio cofeb ryfel 'unigryw' i filwyr yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Bron i ganrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, bydd cofeb newydd yn cael ei dadorchuddio yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn, i gofio am filwyr a gollodd eu bywydau yn y ddau ryfel byd.
Yn ôl un cyn-filwr, bydd y gofeb ym mhlwyf Llanarthne yn unigryw, am mai dyma fydd yr unig gofeb ryfel i'w lleoli ar ochr ddeheuol Dyffryn Tywi.
Er bod cofebau mewn trefi a phentrefi cyfagos, doedd dim cofeb wedi bod yn y pentref, a dyna a symbylodd rhai o bobl yr ardal i fynd ati i newid hynny.
"O'dd lot o bobl gyda ni yn y pentref oedd yn oedrannus - rhai oedd wedi bod yn yr Ail Ryfel Byd - a daethon ni i feddwl amdani, nad oedd gyda ni ddim cofeb yn y pentref ei hunan," meddai clerc cymuned Llananrthe, Delyth Rees.
"Aethon ni ati i gael te yn y pentref, gasglon ni dipyn o arian, ac roedd digon gyda ni i gael cofeb."
Mae'r gofeb yn cynnwys enwau 27 pobl leol a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, ac roedd tipyn o waith i'w wneud i gasglu'r enwau, medd y Cynghorydd Sir, Ann Davies: "Roedd llawer o waith ymchwil i ddweud y gwir.
"O'dd gyda ni enwau oedd ar gofeb yn Gorslas - roedd Gorslas yn rhan o'r hen blwyf yma yn Llanarthne - ond wir, yn ystod y te a gafwyd, daeth enwau eraill ynghyd, a gorfod mynd drwyddo rheiny wedyn i weld pwy oedd yn ddilys ar gyfer y gofeb."
Un sy'n gwerthfawrogi'r ymdrechion i godi'r gofeb yw cyn-gadeirydd Cyngor Sir Dyfed, DT Davies.
Fe wasanaethodd Mr Davies yn yr Ail Ryfel Byd, a chafodd ei ddal yn garcharor rhyfel gan y Natsïaid.
"Fe'n syfrdanwyd o'r ochr orau", meddai Mr Davies, sy'n byw ym mhentref cyfagos Dryslwyn.
"Meddwl bod pobl ifanc yn cofio'r gyflafan gan mlynedd yn ôl... a'u bod nhw'n mynd i neud rhywbeth i gofio am y rhai roddodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, wnaeth yr aberth, er mwyn i ni gael rhyddid a heddwch.
Mae Mr Davies, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 100 oed yn gynharach eleni, yn dweud fod y gofeb yn un unigryw, am mai hon fydd y gyntaf i gael ei chodi i'r de o Afon Tywi.
"Yn Nyffryn Tywi, does dim un ar ochr ddeheuol y Tywi o gwbl," meddai.
"Mae gyda chi rai ar yr ochr ogleddol - Caerfyrddin, Abergwili, Llandegwad, Llangathen, Llandeilo, Llanfynydd - maen nhw'i gyd yr ochr hyn i'r afon. Dim un yr ochr draw."
Ac mae Mr Davies yn canmol clerc y gymuned, Delyth Rees, am ei gwaith wrth baratoi'r gofgolofn: "Mae hi wedi gwneud ymchwil arbennig.
"Mae hi, debyg iawn, wedi hala oriau, ac wedi rhoi amser arbennig i neud hwn.
"Dwi'n siŵr, bydd pawb yn hynod o falch o'r gwaith sydd wedi ei wneud, a bod y gofgolofn yn cael ei chodi yn Llanarthne."
Bydd yr achysur yn dechrau am 15:00 ddydd Sadwrn, gyda gwasanaeth yn neuadd Llanarthne, cyn gorymdaith drwy'r pentref at y gofeb o flaen eglwys y plwyf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2018
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2018