Dedfrydu dyn i 12 mlynedd am yrru car i mewn i dorf

  • Cyhoeddwyd
McCauley CoxFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae dyn o Gasnewydd wedi cael ei ddedfrydu i 12 mlynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc am achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn gwrthdrawiad y tu allan i glwb nos.

Cafwyd McCauley Cox, 19 oed, yn euog o ddefnyddio ei gerbyd fel arf i daro dau berson ar noson allan yng Nghasnewydd.

Fe gafodd Sophie Poole ac Emma Nicholls anafiadau difrifol ar ôl cael eu taro wrth ddisgwyl am dacsi ar Ffordd Cambrian yn oriau mân 29 Ebrill.

Wrth ddedfrydu Cox, dywedodd y barnwr Daniel Williams fod fideo o'r ymosodiad yn "wirioneddol ddychrynllyd" a disgrifiodd y diffynnydd fel "dyn peryglus".

Yn ogystal â 12 mlynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc, mae Cox hefyd wedi cael ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sophie Poole anafiadau i 5% o'i chroen

Mewn datganiad y tu allan i'r llys dywedodd Ms Poole a Ms Nicholls fod yr ymosodiad wedi "newid eu bywydau", a'u bod nhw wedi dioddef yn gorfforol ac yn feddyliol yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd Ms Poole losgiadau difrifol ac roedd angen impiad croen arni, ac fe gafodd Ms Nicholls rwygiadau i'w thueg (spleen) a briwiau drwg i'w ffêr.

Dywedodd Ms Poole ei bod hi'n teimlo'n hunanymwybodol oherwydd ei chreithiau: "Mae'r creithiau yn f'atgoffa bob diwrnod o'r hyn ddigwyddodd i mi... rydw i'n poeni am gyflwr fy nghroen ac ar y diwrnodau drwg, rydw i'n gallu teimlo'n isel iawn."

Yn ôl Ms Nicholls mae'r digwyddiad hefyd wedi ei heffeithio yn feddyliol, a dywedodd ei bod hi wedi dioddef o orbryder ers yr ymosodiad.

Ychwanegodd y datganiad eu bod nhw'n "ffodus nad oedd y canlyniadau yn waeth".

Dywedodd Nick Gedge, oedd yn amddiffyn Cox, fod ei gleient wedi dangos edifeirwch a bod ei fywyd "wedi mynd ar chwâl".

Ar un pryd roedd Cox wedi arwyddo gyda chlwb pêl-droed yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr, ond cafodd ei gyhuddo o arwain yr heddlu ar helfa ar hyd Pont Hafren cyn taro rhwystr ar y bont.

Yn ddiweddarach fe gafodd ddedfryd o 18 mis am fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant, yn ogystal â gorchymyn cymdeithasol am ymosod ar ei gariad - oedd yn disgwyl ei blentyn ar y pryd.