Gwrthfiotigau: 'Angen gwneud mwy' i leihau'r defnydd

  • Cyhoeddwyd
Gwrthfiotigau

Rhaid i Gymru wneud yn well os am gyrraedd y nod o gwtogi'r nifer o bresgripsiynau gwrthfiotig o 5% eleni, medd adroddiad swyddogol.

Roedd 45,000 yn llai o bresgripsiynau o'r fath ar draws Cymru yn 2017-18 - gostyngiad o 2%.

Ond dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yn rhaid i awdurdodau clinigol "ddyblu'u hymdrechion" os ydyn nhw am gyrraedd y nod o 5% a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl yr ymgynghorydd meicrobeiolegwr Robin Howe, mae gwrthsefyll effaith cyffuriau gwrthfiotig yn "broblem gynyddol" sydd angen ei thaclo.

Dywedodd Dr Howe, sy'n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Ar hyn o bryd mae gwrthsefyll gwrthfiotigau yn achosi trafferthion gyda chyffuriau gwrthfiotig ddim yn gweithio yn y gymuned ac mewn ysbytai.

"Dydyn ni ddim am weld y broblem yna'n gwaethygu."

Arwyddion calonogol

Mae gwrthsefyll effaith y cyffuriau yn golygu nad oes modd trin rhai afiechydon "prin iawn", ac efallai nad yw'r cyffuriau'n gweithio cystal ag y buon nhw i nifer o afiechydon eraill.

Ychwanegodd Dr Howe bod arwyddion calonogol fod aelodau'r cyhoedd yn "clywed y neges" a ddim yn mynd at eu meddyg teulu am salwch sydd ddim angen cyffuriau gwrthfiotig, megis annwyd, peswch neu bigyn clust.

"Dyma'r math o bethau lle y gall pobl edrych ar ôl eu hunain - mynd at y fferyllydd a chymryd cyffuriau lladd poen neu wrthlidiol ac yfed digon o ddŵr," meddai.

Mae adroddiad diweddaraf ICC yn dangos mai dim ond un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru a lwyddodd i gwtogi nifer y presgripsiynau o fwy na 1.9%, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Fe wnaethon nhw weld gostyngiad o 5.9%, sef tua 20,000 yn llai o bresgripsiynau y llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Deepa Bhattacharjee yn feicrobeiolegydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Dywedodd Chris Stockport, cyfarwyddwr gwasanaethau cymunedol gyda'r Bwrdd, eu bod wedi gwneud llawer o waith ar gyfryngau cymdeithasol a chyda myfyrwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth.

Yn un o ysbytai'r Bwrdd - Ysbyty Maelor Wrecsam - fe welwyd gostyngiad o 10% yn nifer y presgripsiynau gwrthfiotig, a dywedodd Dr Deepa Bhattacharjee o'r ysbyty fod hynny o ganlyniad i raglen addysg i'r cyhoedd sy'n cael ei redeg gan fferyllfeydd cymunedol.

Ychwanegodd: "Y nod yn y pen draw yw taclo'r broblem o wrthsefyll gwrthfiotigau fel y gallwn ni gadw gwrthfiotigau ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

"Fel yna y gallwn barhau i drin sepsis, a pharhau i wneud llawdriniaethau cymhleth fel trawsblaniadau."