Brexit: Amser anodd i'r byd rasio ceffylau
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr ceffylau rasio yn dweud fod Brexit wedi ei gwneud hi'n amhosibl recriwtio staff o dramor.
Mae Tim Vaughan, sydd â 100 o geffylau ger y Bont-faen, Bro Morgannwg, yn dweud bod gweithwyr o dramor yn amharod i ddod i Gymru gan eu bod yn bryderus y bydd yn rhaid iddynt ddychwelyd adref yn y pen draw.
Dywedodd Mr Vaughan, a ennillodd Grand National Yr Alban yn 2011 gyda'i geffyl Beshabar: "Yn syml, nid oes digon o staff i fynd o gwmpas yn ein diwydiant.
"Yn ddiweddar, fe es i asiantaeth i geisio cael ychydig o aelodau staff a doeddwn i ddim yn gallu cael unrhyw aelodau o staff tramor oherwydd eu bod yn rhy nerfus i ddod ar draws, gan wybod, pan fyddwn wedi dod i ddiwedd y broses [Brexit] efallai y gofynnir iddynt adael y wlad."
Ar gyfartaledd mae 25% o weithwyr mewn stablau cofrestredig yn dod o du allan i'r DU.
Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Ceffylau Prydain, sef corff llywodraethu a rheoleiddio'r diwydiant: "Mae'n hollbwysig i'r diwydiant rasio a bridio ym Mhrydain gael mynediad priodol at y talent gorau gan y diwydiant rasio rhyngwladol.
"Mae rasio ym Mhrydain yn gofyn am system fewnfudo ôl-Brexit sydd ddim yn peryglu statws gweithwyr a rhai nad ydynt eisoes wedi'u lleoli yn y DU."
Mae Mr Vaughan wedi bod yn prynu ceffylau o Iwerddon ers cael trwydded 10 mlynedd yn ôl.
Roedd ar ei golled ar ôl prynu yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, meddai.
"Yn bersonol, prynais geffylau cyn y bleidlais ar gyfer Brexit, a dros nos fe gollais ryw £30,000 oherwydd newid yng ngwerth yr Ewro.
"Roeddwn i'n meddwl y bydden ni'n pleidleisio i aros, dydyn ni ddim yn amlwg, ac mae'r gyfradd gyfnewid wedi gostwng yn enfawr," meddai.
"Rydw i wedi bod yn prynu ceffylau yn Iwerddon ers 10 mlynedd bellach ac nid yw'r gyfradd erioed wedi bod yn is."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2018