Dyn 'ddim yn drist' yn dilyn marwolaeth ei wraig

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron

Mae llys yn achos dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio'i wraig wedi clywed nad oedd "wedi ei ysgwyd" yn dilyn marwolaeth ei wraig.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod parafeddygon wedi canfod corff Lesley Potter, 66, yn noeth yn ei chartref yn Y Mwmbwls ym mis Ebrill.

Mae Derek Potter, 64, wedi gwadu llofruddio ei wraig Lesley, gan ddweud ei bod wedi lladd ei hun.

Fe wnaeth y llys hefyd glywed tystiolaeth gan ddynes oedd yn dweud fod Mr Potter wedi cyfaddef iddi ei fod wedi lladd ei wraig.

'Alcohol ac iselder'

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Mark Gabb o'r gwasanaeth ambiwlans ei fod wedi mynychu sawl digwyddiad o grogi neu ataliad ar y galon, ond nad oedd erioed wedi gweld achos ble roedd y claf wedi dadwisgo.

Dywedodd wrth Lys y Goron Abertawe ei fod wedi cyrraedd y tŷ am tua 11:40 ar 7 Ebrill, ar ôl derbyn galwad frys.

Pan atebodd Derek Potter y drws iddyn nhw, meddai Mr Gabb, roedd yn "ymddangos fel petai e'n ymddwyn yn rhesymol, doedd e ddim yn crio, doedd e ddim wedi'i ysgwyd".

Dywedodd Mr Gabb fod corff Mrs Potter yn gorwedd ar fwrdd.

"Wrth i mi fynd mewn i'r ystafell fe welais i raff ar drawst, ond dim ond am eiliad welais i e achos roedd fy sylw i ar y claf."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Lesley Potter ei ganfod yn nhŷ'r cwpl yn Hill Street, Y Mwmbwls

Ychwanegodd ei fod wedi sylwi ar gyllell ar y llawr, a'i bod hi'n glir fod Mrs Potter wedi marw.

"Roedd e'n amlwg fod marc ar ei gwddf," meddai. "Doedd hi ddim yn anadlu. Nes i weld os oedd pỳls a doedd dim cylchrediad."

Wedi iddo asesu Mrs Potter fe siaradodd â'i gŵr, a ddywedodd ei fod wedi gadael ei wraig yn y tŷ wrth iddo fynd allan i gasglu arian.

Pan ddychwelodd, meddai, fe wnaeth e ganfod ei chorff.

Ychwanegodd Mr Potter fod ei wraig yn "ddibynnol ar alcohol" a'i bod yn dioddef o iselder ond wedi gwrthod cymorth.

Ond wnaeth y gwasanaethau brys ddim dod o hyd i unrhyw nodyn yn y tŷ oedd yn awgrymu hunanladdiad.

'Dim dagrau'

Yn ddiweddarach clywodd y llys gan Natalia Mikhailoea-Kisselevskaia, dynes oedd yn nabod Derek Potter drwy ei ferch, Nicole.

Dywedodd Ms Mikhailoea-Kisselevskaia ei bod hi wedi gwneud rhywfaint o waith gyda Mr Potter, a'i bod wedyn wedi mynd am ddiod gydag ef i dafarn.

Yn ystod eu diod gyntaf, meddai, dywedodd Mr Potter ei fod yn "caru ei wraig" ond ei fod wedi "ei chrogi achos roedd hi'n fy ngyrru i'n wallgof".

Ychwanegodd fod Mr Potter wedi dweud wrthi fod Lesley Potter wedi cyfaddef wrtho ei bod "dal yn ffansïo bachgen roedd hi'n nabod o'r ysgol flynyddoedd yn ôl".

Dywedodd Ms Mikhailoea-Kisselevskaia ei bod hi'n credu fod Mr Potter yn tynnu coes i ddechrau, "ond roedd e'n dweud e gydag wyneb syth, dim dagrau yn ei lygaid, felly nes i feddwl, o na, mae e wedi'i wneud e".

Fe wnaeth Mr Potter erfyn arni i beidio dweud wrth unrhyw un, meddai, ac fe ddywedodd hi na fyddai hi "am nad oeddwn i eisiau ei wneud e'n fwy blin".

Gofynnodd Mr Potter wrthi a fyddai hi'n symud i mewn gydag ef, meddai, ond gwrthododd hi'r cynnig.

Clywodd y llys fod Mr Potter wedi ystwytho troed Ms Mikhailoea-Kisselevskaia yn y dafarn yn ddiweddarach, wedi iddi hi ddweud ei bod hi wedi ei anafu.

Wnaeth Ms Mikhailoea-Kisselevskaia ddim dychwelyd adref gyda Mr Potter y noson honno, ond wrth gyfarfod ag ef y diwrnod canlynol fe ofynnodd iddo a oedd yn cofio sgwrs y noson gynt a dywedodd ei fod yn "cofio popeth".

Dywedodd Ms Mikhailoea-Kisselevskaia nad oedd hi wedi dweud wrth yr heddlu'n syth ynglŷn â beth roedd Mr Potter wedi'i ddweud wrthi, ond ei bod hi wedi penderfynu gwneud yn ddiweddarach ar ôl siarad â ffrindiau.

Mae Derek Potter yn gwadu llofruddio'i wraig Lesley ac mae'r achos yn parhau.