Gosod camerâu cyflymder ar ffyrdd Triongl Evo, Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Sut mae lleihau marwolaethau ar ffyrdd Triongl Evo?

Bydd camerâu cyflymder yn cael eu gosod ar ffyrdd Triongl Evo yn Sir Ddinbych i geisio lleihau nifer y damweiniau.

Mae tair lôn rhwng Pentrefoelas, Llyn Brenig a Cherrigydrudion - sy'n cael eu hadnabod yn lleol fel yr Triongl Evo - wedi datblygu'n gylchdaith boblogaidd i bobl sy'n hoffi gyrru ceir a beiciau modur cyflym.

Bydd y camerâu newydd yn cael eu gosod ar yr A543 yn siroedd Conwy a Dinbych, y rhan o'r ffordd sydd â'r nifer fwyaf o wrthdrawiadau wedi eu cofnodi.

Daw fel rhan o fuddsoddiad o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.

Wrth gyhoeddi, dywedodd yr Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth, Ken Skates: "Hoffwn weld pawb yn defnyddio ein ffyrdd mewn modd diogel a chyfrifol, a bydd y cyhoeddiad hwn yn helpu taclo materion sy'n peryglu'r cyhoedd ar y llwybr hwn."

Disgrifiad,

Fe wnaeth tri dyn gyfaddef i yrru ar gyflymder o hyd at 117 milltir yr awr ar hyd y ffyrdd ym mis Mehefin 2017

Ar benwythnosau, yn enwedig yn yr haf, mae gyrwyr o bob cwr o Brydain yn teithio i'r ardal i fynd ar hyd y ffordd.

Mae rhai yn rhannu fideos ar y we, ac yn canmol pa mor addas ydy'r triongl ar gyfer gyrru'n gyflym a phrofi ceir.

Mae'r buddsoddiad yn rhan o gynllun diogelwch ehangach, ac mae rhan o'r arian yn mynd tuag at gynllunio a chyflwyno ail ran y prosiect.

Ychwanegodd Mr Skates: "Diogelwch yw ein blaenoriaeth wrth fuddsoddi yn ein rhwydwaith ffyrdd, a bydd gosod camerâu yn y safle yma yn annog pobl i beidio â gyrru ar gyflymder uchel a gwella amodau i drigolion lleol, busnesau a'r rhai sydd yn gyrru'n ofalus."