Ymroddiad i dalu 60% o gost glanhau llygredd stad dai
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod am roi cymorth ariannol i Gyngor Sir Ynys Môn er mwyn cwblhau'r gwaith o adfer tir llygredig ar stad dai yn Amlwch.
Cafodd profion eu cynnal fis Hydref y llynedd ar bridd gerddi dros 100 o dai ar stad Craig y Don i weld a oedden nhw wedi cael eu llygru gan waith toddi copr yn yr ardal 200 mlynedd yn ôl.
Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, cafodd lefelau uchel o arsenig a phlwm "a fyddai'n gallu peryglu iechyd pobl" eu darganfod yn gynharach eleni o dan 16 o gartrefi'r stad.
Wrth i'r llefarydd gadarnhau ymroddiad y Llywodraeth i ariannu 60% o'r gost, gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn talu am y gweddill, doedd dim awgrym faint fydd y gwaith yn costio.
Fe godwyd y tai yn y 50au cynnar ar safle hen ffatri gemegol Hill's - safle gafodd hefyd ei ddefnyddio rhwng 1786 ac 1897 ar gyfer mwyndoddi copr. Mae'r stad yn cynnwys tai preifat a thai cyngor.
Yn gynharach yn y mis fe fynegodd cynghorwyr tref yn Amlwch bryder bod Cyngor Môn heb fynd i'r afael â'r sefyllfa, bron i flwyddyn ar ôl i drigolion gael gwybod bod yna lygredd posib.
Dywedodd y Llywodraeth ddydd Mawrth y bydd eu cyllid nhw "yn sicrhau na fydd yn rhaid i drigolion dalu am y gwaith eu hunain, ac na fydd yn rhaid i'r awdurdod lleol ddefnyddio ei gyllidebau presennol i dalu am y gost i gyd".
Bydd yr arian yn sicrhau "ardal ddiogel a glân i drigolion, y gymuned a chenedlaethau'r dyfodol", medd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.
"Mewn achosion pan nad yw'r llygrwr gwreiddiol yn bodoli bellach, perchennog neu feddiannydd yr eiddo sy'n gyfrifol fel arfer am dalu costau adfer y tir halogedig," meddai.
"Fodd bynnag, o gofio'r nifer o ffactorau neilltuol yng Nghraig-y-Don, roeddem yn teimlo ei bod yn briodol i'r Llywodraeth ddarparu cymorth ariannol ar gyfer y gwaith adfer.
Roedd yna groeso i'r cyhoeddiad gan arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a ddywedodd y bydd yr arian yn "sicrhau bod y gwaith pwysig yma'n mynd ymlaen".
Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi: "Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol i drigolion Craig y Don, ond y nhw sydd wedi bod yn flaenoriaeth i ni bob cam o'r ffordd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2017