Dyn yn gwadu bod â rhan ym marwolaeth ei wraig
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig a gwneud iddi ymddangos ei bod hi wedi lladd ei hun wedi dweud wrth reithgor na wnelo ef ddim â'i marwolaeth.
Mae Derek Potter, 64, yn gwadu llofruddio Lesley Potter yn eu cartref yn Hill Street, Y Mwmbwls ym mis Ebrill.
Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd Mr Potter na fu ffrae na ffrwgwd gyda'i wraig 66 oed ddiwnod ei marwolaeth ac mai hi oedd wedi lladd ei hun.
Mae'r rheithgor eisoes wedi clywed bod yr heddlu heb ystyried marwolaeth Mrs Potter yn un amheus yn wreiddiol a bod ei chorff wedi ei ryddhau i drefnydd angladdau.
Ond dair wythnos wedi iddi farw - ac wythnos cyn dyddiad amlosgi'r corff - fe wnaeth yr heddlu ailedrych ar yr achos.
Mae'r erlyniad yn dweud bod y diffynnydd wedi cyfaddef i fenyw arall ei fod wedi ladd ei wraig am ei bod "yn ei yrru'n wallgof".
Yn ôl archwiliad post-mortem roedd Mrs Potter wedi cael nifer o anafiadau, gan gynnwys anafiadau mewnol, ac roedd sawl clais a "marciau eraill" ar ei chorff.
'Casglu tabledi'
Roedd y diffynnydd wedi dweud wrth yr heddlu bod ei wraig wedi baglu dros stôl droed y diwrnod cyn iddi farw ac anafu ei chefn wrth syrthio i'r llawr.
Hefyd fe ddywedodd wrth dditectifs bod ei wraig mewn poen cyson gydag arthritis.
Dywedodd Mr Potter wrth y rheithgor nad oedd ei wraig yn ymdopi'n dda gyda'r cyflwr, a'i bod yn prynu tabledi lladd poen o wahanol fferyllfeydd i guddio faint ohonyn nhw roedd yn eu cymryd.
Ychwanegodd ei fod wedi mynegi pryder i'w feddyg teulu fis Tachwedd diwethaf bod ei wraig mewn poen ac yn casglu meddyginiaeth.
Dywedodd wrth y llys ei fod "yn meddwl bod wnelo'r cyfan ag iselder".
Ychwanegodd bod ei wraig o 26 mlynedd yn "drwgdybio" meddygon oherwydd methiannau honedig yn y gofal y cafodd ei mam cyn marw o ganser.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2018