Express Motors: Carcharu pump am dwyll gwerth miloedd

  • Cyhoeddwyd
Dilyn y cloc o'r chwith i'r dde: Kevin Wyn Jones, Eric Jones, Rheinallt Williams, Keith Jones ac Ian Wyn JonesFfynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Dilyn y cloc o'r chwith i'r dde: Kevin Wyn Jones, Eric Jones, Rheinallt Williams, Keith Jones ac Ian Wyn Jones

Mae perchennog cwmni bysiau o Wynedd a tri o'i feibion wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 29 mlynedd am eu rhan mewn twyll ariannol gwerth degau o filoedd o bunnoedd.

Cafodd Eric Wyn Jones, 77 o'r Bontnewydd, a'i feibion Ian Wyn Jones o Benygroes, Keith Jones o Landdaniel, a Kevin Wyn Jones o'r Bontnewydd, eu dedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher ar ôl i reithgor eu cael yn euog o dwyll.

Roedd y pedwar wedi hawlio arian gan Gyngor Gwynedd am siwrneiau ffug, drwy ddefnyddio pasys pobl dros 60 oed.

Cafodd dyn arall, Rheinallt Williams, hefyd ei ddedfrydu ar ôl cyfaddef ei ran yn y twyll.

88,000 o deithiau ffug

Clywodd y llys hefyd fod £500,000 wedi mynd i'w cyfrifon personol, ac nad oeddynt wedi talu treth arno.

Yn yr achos dedfrydu fe wnaeth Ian Wyn Jones hefyd bledio'n euog i gyhuddiad ychwanegol o fod â gwerth £840 o arian ffug yn ei feddiant.

Dywedodd y barnwr Timothy Petts ei fod yn amlwg fod gan Eric Wyn Jones ran flaenllaw yn y twyll. Cafodd ei garcharu am saith mlynedd a hanner.

Cafodd Ian Wyn Jones hefyd ddedfryd o saith mlynedd a hanner gyda Kevin Wyn Jones yn cael ei garcharu am saith mlynedd.

Bydd Keith Jones yn treulio chwe blynedd tan glo.

Roedd pumed dyn, Rheinallt Williams, 44, eisoes wedi cyfaddef ei ran wrth brosesu pasys bws ar ran ei gyflogwr. Fe wnaeth o dderbyn dedfryd o 12 mis o garchar.

Ychwanegodd y barnwr fod "rhywun yn Express Motors wedi darganfod modd o dwyllo'r system ac fe aethoch ati i gasglu pasys oedd wedi eu gadael neu wedi mynd ar goll".

Dywedodd y barnwr fod y ffigyrau yn drawiadol gyda chardiau yn cael eu defnyddio mwy na 88,000 o weithiau, gyda bob un defnydd yn "gyfystyr â phres yn y banc i Express Motors".

"Roedd y twyll yn dangos y trahauster mwyaf."

Clywodd y gwrandawiad gwreiddiol fod pas un pensiynwr wedi ei ddefnyddio miloedd o weithio ar ôl i'r ddynes farw.

Cafodd pas arall oedd wedi ei golli ei ddefnyddio 23,000 o weithiau er bod pas newydd wedi ei roi i'r person a'i collodd.

Cymorth gwerthfawr tystion

Roedd y cwmni wedyn yn hawlio arian am y teithiau ffug gan Gyngor Gwynedd, a oedd wedyn yn hawlio'r arian yn ôl gan Lywodraeth Cymru drwy'r cynllun consesiynau teithio.

Ar ôl y gwrandawiad dedfrydu dywedodd y Ditectif Arolygydd Gerwyn Thomas o Heddlu Gogledd Cymru fod y gweithredoedd wedi achosi colled economaidd sylweddol i'r trethdalwr.

"Hoffwn dalu teyrnged i'r tystion yna ddaeth ymlaen a rhoi cymorth i ni gyda'r ymchwiliad, yn ogystal â diolch i'r asiantaethau roddodd gymorth gwerthfawr i dîm bychan ymroddedig o dditectifs sydd wedi bod yn gweithio'n ddyfal ar yr ymchwiliad," meddai.

"Rwyf yn croesawu'r ddedfryd ac yn gobeithio bydd yn rhoi'r neges blaen fod Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron am ymchwilio yn llawn i droseddau fel hyn a sicrhau fod y troseddwyr yn cael eu herlyn."