Galw am sicrwydd i stondinwyr marchnad Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
marchnad Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adeilad cofrestredig wedi ei adeiladu gan ddefnyddio cerrig lleol o Gilgerran, ac wedi ei ysbrydoli gan arddull bensaernïol gothig modern

Mae un o gynghorwyr Aberteifi wedi galw am sicrwydd i stondinwyr marchnad y dref, yn sgil cynlluniau i gau'r adeilad cofrestredig am 12 mis ar gyfer gwaith adnewyddu gwerth £1.7m.

Mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi yn bwriadu cau'r farchnad tra bod gwaith yn cael ei wneud i osod lifft a chreu mynedfa newydd i'r adeilad o'r maes parcio tu ôl i'r farchnad.

Dywedodd y Cynghorydd John Adams Lewis ei bod hi'n bwysig darganfod lle yn agos at y farchnad ar gyfer y masnachwyr.

Yn ôl Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Howard Williams, mae'n bosib y gallai Canolfan Teifi, sydd erbyn hyn yn wag, gael ei defnyddio fel lleoliad dros dro i'r farchnad.

Disgrifiad o’r llun,

Canolfan siopa wag Canolfan Teifi, sydd drws nesaf i'r farchnad bresennol

Dywedodd y Cynghorydd Adams Lewis: "Mae'n rhaid cael sicrwydd bod lle gyda nhw i fynd, falle drws nesa sydd yn wag. Mae angen cydweithio gyda pherchennog yr adeilad."

Mae'r masnachwyr a'r cyngor yn ymwybodol bod angen cwblhau gwaith atgyweirio angenrheidiol i'r adeilad - lle nad oes yna wres na lifft ar gyfer ymwelwyr.

Ychwanegodd y Cynghorydd Adams Lewis: "Gobeithio y bydd modd dechrau ar y gwaith cyn gynted â phosib."