Eluned Morgan i ildio ei theitl os yn arweinydd Llafur

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan

Bydd Eluned Morgan yn ildio ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi os ydy hi'n cael ei hethol yn arweinydd y Blaid Lafur ac yn Brif Weinidog Cymru.

Ymunodd â Thŷ'r Arglwyddi gyda theitl y Farwnes Morgan o Drelái yn 2011.

Dywedodd ei fod yn "benderfyniad anodd" gan ei bod yn "falch iawn" o'i gwaith yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan gynnwys "hyrwyddo priodasau hoyw, ymladd Bil yr Undebau Llafur a chael pwerau newydd i Gymru".

Bydd canlyniad yr etholiad i ddewis arweinydd Llafur Cymru yn cael ei gyhoeddi ar 6 Rhagfyr.

Ers 2014 mae arglwyddi wedi gallu ymddiswyddo o Dŷ'r Arglwyddi.

Er bod modd iddyn nhw gadw eu teitlau ar ôl ymddiswyddo, dywedodd y Farwnes Morgan y byddai'n ildio'r teitl hefyd.

"Dwi'n ymwybodol na fyddai llawer o bobl yng Nghymru eisiau rhywun gyda theitl yn rheoli'r wlad," meddai.

Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo fy mod i wedi gwneud cyfraniad ond dwi'n teimlo'n fwy sylfaenol bod angen i Dŷ'r Arglwyddi gael ei ail-strwythuro'n llwyr, cael ei ethol yn ddemocrataidd a chynrychioli gwledydd ac ardaloedd Cymru, a dyna fuaswn i'n ei wneud fel prif weinidog ydy ceisio ei hyrwyddo fel ail siambr."

Roedd maniffesto Llafur yn 2017 yn dweud bod gan y blaid "gred sylfaenol" y dylai'r ail siambr yn San Steffan fod yn etholedig.

Roedd yn dweud bod y blaid yn anelu at roi diwedd ar yr "egwyddor etifeddol" a cheisio lleihau nifer yr arglwyddi.