Cyngor i drafod cynllun ailddatblygu pier Y Mwmbwls
- Cyhoeddwyd
Bydd cynlluniau i wario miliynau o bunnau ar ddatblygu ardal pier Y Mwmbwls yn cael eu trafod gan gynghorwyr yn ddiweddarach.
Mae perchennog y pier, Ameco, am adeiladu gwesty, siopau a fflatiau moethus ar y tir eiconig.
Er bod caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith eisoes wedi ei roi, ni fydd modd i gynghorwyr roi sêl bendith terfynol heb ganiatâd gweinidogion ym Mae Caerdydd.
Dros y penwythnos derbyniodd Cyngor Abertawe lythyr yn gorchymyn iddynt beidio â rhoi caniatâd cynllunio "heb iddo gael ei awdurdodi gan weinidogion Cymru".
Cynllun dadleuol
Mae cynlluniau uchelgeisiol perchnogion y pier wedi corddi'r dyfroedd yn y pentref.
Mae ymgyrchwyr yn pryderu y byddai fflatiau'n anharddu'r "olygfa hyfryd" ac yn honni bod y datblygiad ar dir gwarchodedig.
Yn ôl cwmni Ameco, mae'r cynllun yn ganolog i waith atgyweirio'r atyniad hanesyddol.
Bydd gan gynghorwyr yr hawl i allu trafod a gwrthod y cynllun yn ystod cyfarfod y pwyllgor cynllunio.
Ond ni fyddan nhw'n gallu rhoi sêl bendith i'r cynllun yn dilyn yr ymyrraeth gan weinidogion Bae Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2018