Arestio 11 yn dilyn cyrchoedd yn ardal Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae 11 person wedi eu harestio yn ystod cyfres o gyrchoedd gan Heddlu Gwent yn ardal Alway a Lliswerry yng Nghasnewydd fore Iau.
Meddiannwyd ceir, gemwaith, cyffuriau ac arian parod oedd yn gysylltiedig â throseddu cyfundrefnol gan Heddlu Gwent, yn dilyn 13 cyrch yn yr ardal.
Fe wnaeth y cyrchoedd a'r arestiadau, sy'n rhan o Ymgyrch Jigsaw, hefyd ddod o hyd i gyffuriau.
Dywedodd y llu bod troseddwyr difrifol o'r fath yn "fygythiad cyson" i gymunedau'r ardal, ac mae Heddlu Gwent yn galw ar y gymuned leol i'w hysbysu o unrhyw beth sy'n ymddangos "allan o le".
Mae'r 11 person sydd wedi eu harestio yn parhau i fod y ddalfa ac mae ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.
Daeth yr heddlu hefyd o hyd i gyffur Dosbarth A, sydd bellach yn cael ei archwilio gan dîm fforensig.
Canlyniadau dyrys i gymunedau
Yn ôl Andrew Tuck, Ditectif Arolygydd Troseddau Cyfundrefnol: "Mae troseddwyr sy'n rhan o droseddau difrifol o'r fath yn fygythiad cyson i'n cymunedau, nid oes ganddynt barch at neb, ac mae trachwant personol am gyfoeth a statws yn achub y blaen ar unrhyw foesoldeb.
"Mae gan drais difrifol, cyflenwi cyffuriau a thwyll, i gyfeirio at rai problemau yn unig, ganlyniadau dyrys sy'n achosi poen a dioddefaint yn ein cymunedau - rhai sydd, yn amlach na pheidio, ddim yn cael eu gweld fel rhan o ddarlun mawr troseddu cyfundrefnol."
Dywedodd uwch-arolygydd ardal Casnewydd, Ian Roberts, bod y cyrchoedd fore Iau yn "un agwedd o frwydr ehangach i daclo troseddu difrifol a chyfundrefnol yng Ngwent".
"Rydym yn cadw llygad ar y bobl yma, ac ni fyddwn yn rhoi'r gorau iddi tan ein bod wedi ennill y frwydr i roi stop ar y grŵp yma o droseddwyr," meddai.
Galwodd Mr Roberts ar drigolion yr ardal leol i gysylltu gyda Heddlu Gwent petaent yn gweld unrhyw beth amheus yn eu cymunedau.
"Os welwch chi rywbeth sy'n edrych allan o le, neu os oes 'na rywbeth nad yw'n taro deuddeg, yna gallwch gysylltu gyda ni, gan wybod y byddwn yn mynd ati i ymdrin ag e.
"Bosib ei fod yn edrych fel rhywbeth bach i chi, ond i Heddlu Gwent, gall arwain at ateb problem llawer mwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2017