Actorion yn galw am newidiadau i National Theatre Wales
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o actorion amlycaf Cymru - gan gynnwys Rhys Ifans - wedi galw am newidiadau i National Theatre Wales (NTW).
Mewn llythyr i gadeirydd NTW, Clive Jones, mae'r actorion yn galw am fwy o ymroddiad i gastio talent o Gymru.
Daw hyn wedi i 40 o ddramodwyr gyhuddo'r corff o "danseilio" artistiaid Cymreig.
Yn y llythyr, gafodd ei anfon at Mr Jones rai wythnosau yn ôl, mae'r actorion yn galw am "drafodaeth gyhoeddus ynglŷn â phwrpas NTW".
'Diffyg cysylltiad'
Mae Rhys Ifans ymysg 212 o actorion adnabyddus sydd wedi rhoi eu henwau ar y llythyr, gan gynnwys Matthew Gravelle, Sharon Morgan, Mali Harries a Mark Lewis Jones.
Dywedodd y llythyr fod yr actorion yn "rhannu pryderon y dramodwyr ynglŷn â'r diffyg yn nifer cynyrchiadau'r cwmni'n ddiweddar, yn ogystal â diffyg diddordeb cynulleidfaoedd".
"Mae nifer fawr ohonom yn teimlo diffyg cysylltiad gyda fforwm theatrig a oedd unwaith yn fywiog a chyfeillgar ac a fyddai'n dathlu gwaith ac artistiaid Cymreig yn y gorffennol," meddai.
Ychwanegodd bod yr actorion yn cytuno gyda thri o ofynion y dramodwyr:
Dylai pob cynhyrchiad gan NTW fod ag artist Cymreig neu wedi'i leoli yng Nghymru fel prif artist;
Bod yn rhaid i gwmnïau ac artistiaid nad ydynt o Gymru neu wedi'u lleoli yma fod a) o'r radd flaenaf, a b) ond yn cael eu penodi er mwyn cefnogi artist o Gymru neu artist sydd yn byw yma;
Rhaid i bob cynhyrchiad gan NTW gynnwys theatr.
Dywedodd yr actorion eu bod nhw'n awyddus i gynnig dau amcan arall, sef y dylai NTW:
Gyflogi perfformwyr Cymreig, wedi'u lleoli yng Nghymru neu sydd wedi'u hyfforddi yng Nghymru;
Greu cynyrchiadau hirach, i gynulleidfaoedd ehangach, ac i "annog actorion Cymreig sy'n llwyddiannus yn fyd-eang, i fod eisiau cyd-weithio â'r cwmni".
Fe wnaeth NTW gyfarfod gyda'r dramodwyr yn ddiweddar ac fe ddywedodd yr actorion eu bod nhw wedi'u "calonogi" gan hynny.
Mae National Theatre Wales yn canolbwyntio ar gynyrchiadau iaith Saesneg yn bennaf tra bod eu chwaer sefydliad, Theatr Genedlaethol Cymru, yn cynhyrchu perfformiadau yn y Gymraeg.
'Anodd cyfiawnhau cynyrchiadau bach'
Dywedodd prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi, bod yn rhaid i NTW "ailadeiladu'r berthynas" gyda'r dramodwyr a'r actorion sydd wedi siarad yn gyhoeddus.
Roedd Mr Capaldi hefyd yn feirniadol o'r cynyrchiadau llai, gan ddweud ei bod hi'n "anodd cyfiawnhau llond llaw o bobl" yn mynd i wylio perfformiad.
Ond ychwanegodd ei fod yn credu, "gydag amser", bod dyfodol addawol i NTW o dan y Cyfarwyddwr Artistig, Kully Thiarai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018
- Cyhoeddwyd27 Awst 2018