Ysgol: 'Angen bod yn haws i blant yr haf dechrau'n hwyr'
- Cyhoeddwyd
Dylai hi fod yn haws i blant sy'n cael eu geni yn yr haf ddechrau'r ysgol flwyddyn yn hwyrach, yn ôl ymgyrchwyr.
Ar hyn o bryd mae cynghorau Cymru'n gallu gwrthod ceisiadau i wneud hynny heb unrhyw esboniad, ond mae rhieni am weld Llywodraeth Cymru'n cynnig arweiniad cadarn.
Mae rhai yn galw am fwy o hyblygrwydd i'r plant sydd wedi eu geni'n hwyr yn y flwyddyn ysgol er mwyn rhoi mwy o amser iddyn nhw ddatblygu.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd adolygiad o'r Côd Derbyn i Ysgolion yn dechrau fis yma.
Mae deiseb wedi'i chyflwyno i'r Cynulliad yn gofyn i aelodau ystyried caniatáu plant sydd wedi'u geni rhwng 1 Ebrill a 31 Awst gael dechrau dosbarth derbyn flwyddyn yn ddiweddarach, neu fod mwy o bwyslais ar gynghorau i ystyried ceisiadau yn llawn gan rieni.
'Ystyried ceisiadau'n ofalus'
Yn gyfreithiol, mae disgwyl i blentyn ddechrau'r ysgol y tymor cyntaf wedi ei ben-blwydd yn bump oed, ond mae'r mwyafrif o blant yn dechrau'n bedair oed.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y dylai awdurdodau ystyried ceisiadau yn ofalus a gwneud penderfyniadau ar sail amgylchiadau pob achos gan ymgynghori â'r rhieni a'r ysgol.
Ond mewn gwirionedd mae rhieni'n dadlau bod diffyg cysondeb yn y modd mae cynghorau'n dehongli'r côd, ac ychydig o'r ceisiadau sy'n cael eu cymeradwyo.
Yn ôl Eleri Griffiths, sy'n gyfreithiwr dan hyfforddiant gyda Watkins & Gunn, dyw pob awdurdod ddim yn edrych ar achosion unigol.
"Mae'n well gwneud cais gyda thystiolaeth, gyda datganiad gan seicolegydd - a byddai'r ddogfen yma'n esbonio pam nad yw'r plentyn yn barod i ddechrau'r ysgol," meddai.
"Mae'n rhaid i'r awdurdodau lleol ddilyn y côd sydd wedi ei roi gan Lywodraeth Cymru.
"Mae'n dweud bod rhaid iddyn nhw ystyried popeth ynglŷn â'r plentyn, a beth sydd orau i'r plentyn.
"Byddai unrhyw dystiolaeth sydd gan y rhieni yn helpu, ac mae'n rhaid i'r awdurdodau lleol edrych ar y côd a gwneud eu penderfyniad yn unol â hwnnw."
Dywedodd Manon Paschalis, sy'n gyfrifol am Cylch Meithrin y Parc yng Nghaerdydd, bod pob sefyllfa'n wahanol.
"'Da ni'n cymryd plant o ddyflwydd oed, ac o'm mhrofiad i mae'n dibynnu'n llwyr ar y plentyn," meddai.
"Yn aml, maen nhw i gyd yn ymuno yn yr un math o bethau â'r plant hŷn, hyd yn oed os oes dwy flynedd rhyngddyn nhw.
"Ar ôl cwpl o wythnosau maen nhw'n iawn, maen nhw wedi dal lan - siŵr o fod achos bod gyda nhw'r plant hŷn i'w hannog nhw i wneud y pethau yma."
Beth yw'r sefyllfa yng ngweddill Prydain?
Lloegr
Y cynghorau sydd hefyd yn penderfynu a ddylai plant gael dechrau'r ysgol yn ddiweddarach.
Yn 2015, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'n diwygio'r canllawiau i sicrhau bod plant sy'n cael eu geni yn yr haf yn cael mynediad i ddosbarth derbyn yn bump oed os mai dyma oedd dymuniad y teulu - ond nid yw'r newidiadau wedi'u gweithredu eto.
Yr Alban
Mae'r flwyddyn ysgol yn wahanol yn Yr Alban, gan redeg o ganol mis Awst.
Mae'r plant yn y flwyddyn ysgol wedi eu geni rhwng dechrau mis Mawrth a diwedd y Chwefror canlynol, felly mae plant fel arfer yn dechrau'r ysgol rhwng pedair blwydd a hanner a phum mlwydd a hanner.
Ond mae rhieni plant sy'n cael eu geni rhwng Medi a Chwefror yn gallu gwneud cais i ohirio mynediad eu plentyn i'r Awst canlynol.
Mae ceisiadau'r rhai sy'n cael eu geni rhwng Medi a Rhagfyr yn dibynnu ar benderfyniadau'r cynghorau, ac i blant sy'n cael eu geni yn Ionawr a Chwefror mae'n cael ei gymeradwyo'n awtomatig.
Gogledd Iwerddon
Mae plant yn dechrau addysg orfodol yn gynharach yma, yn bedair oed.
Ond os yw plentyn yn troi'n bedair rhwng 2 Gorffennaf a 31 Awst, ni fyddan nhw'n dechrau'r ysgol tan y mis Medi canlynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2017
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018