Dyfodol 'cyffrous' i ddisgyblion ysgol ym Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd pennaeth Ysgol Bro Hyddgen, Dafydd Jones y bydd adeilad "gwerth chweil" yn y dref

Mae cynlluniau i adeiladu campws ysgol newydd ym Mhowys wedi eu rhyddhau'n gyhoeddus, gyda'r pennaeth yn dweud bod y dyfodol yn un "cyffrous iawn".

Bydd ysgol newydd yn cael ei adeiladu i blant 4-18 oed ym Machynlleth gerllaw safle Ysgol Bro Hyddgen yn y dref.

Mae £23m wedi'i fuddsoddi yn y prosiect, gyda disgwyl i'r ysgol newydd agor yn 2020.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Bro Hyddgen, Dafydd Jones: "'Da ni wedi bod yn trio cael campws newydd ers 2006.

"Erbyn hyn mae'r cynlluniau yn eu lle ac mae'n beth cyffrous iawn.

"Mae ganddo ni grŵp o athrawon ffantastig yma ac mae'r plant yn arbennig iawn ac mewn dwy flynedd mi fydd ganddo ni adeilad gwerth chweil."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu gerllaw safle Ysgol Bro Hyddgen

Dan y cynlluniau, y bwriad yw dymchwel yr adeilad presennol ac ail-ddatblygu'r safle er mwyn creu ysgol pob oed newydd sbon i 620 o ddisgyblion, gyda darpariaeth blynyddoedd cynnar.

Ychwanegodd Mr Jones fod cael ysgol gydol oes yn "golygu bod ni'n gallu sicrhau addysg yn Nyffryn Dyfi".