Y 'gyfrinach' newidiodd byd Iwan Steffan
- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddar bu Iwan Steffan, o Rhiwlas ger Bangor ond bellach yn byw a gweithio yn Lerpwl, yn sgwrsio ar raglen Bore Cothi, Radio Cymru am gael trawsblaniad gwallt yn Istanbul, Twrci.
Ond dim ond un o nifer o driniaethau i wella ei edrychiad a'i ddelwedd yw hyn, a'r hyn sydd wedi ysgogi'r newid yw gadael adref a llyfr dylanwadol. Fuodd Iwan yn sgwrsio gyda Cymru Fyw i esbonio.
Pan o'n i'n byw adre do'n i ddim wedi dod allan yn hoyw a doeddwn i ddim yn teimlo faswn i'n gallu dod allan - nid oherwydd fy nheulu, o'n i'n gwybod fydden nhw mor neis am y peth - ond trwy'r ysgol ges i fy mwlio dipyn bach achos o'n i'n edrych yn reit feminine ac yn camp. Ond o'n i'n trio cuddio'r ffaith a trio dweud wrth fy hun bod fi ddim yn hoyw.
Pan symudais i Lerpwl felly, o'n i'n cario mwy o bwysau ac yn edrych yn hollol wahanol i rŵan. Ond yn Lerpwl, wnes i weld faint o wahanol bobl oedd yma a dd'wedais wrth fy hun 'o hyn ymlaen, dwi'n mynd i wneud be dwi isho gwneud'.
O'n i wastad wedi isho trio colur, trio spray tans, o'n i isho edrych yn dda. Wnes i sylweddoli bod fi mor anhapus. Ro'n i dros bwysa', 'doedd dim ots gynna'i sut r'on i'n edrych, ac yn Lerpwl wnes i sylweddoli allwn ni wneud beth o'n i isho a byddai neb yn cymryd sylw o'r peth.
Dwi'n berson sy'n poeni'n ofnadwy, ond wnes i ddarllen llyfr yn 2008 oedd ynglŷn â bod yn bositif.
Ers i mi ddarllen y llyfr 'na, a dwi'n dal yn ei ddarllen o bryd i'w gilydd. Wnes i newid y ffordd o'n i'n meddwl am bethau ac roedd pob dim yn ok. Gan bo fi wedi bod mor anhapus, doeddwn i ddim yn gweld dim yn bod â dathlu pwy wyt ti a bod yn falch o fi fy hun.
Newid agwedd i newid bywyd
Pan es i Istanbul i gael fy hair transplant, roedd pawb yn poeni a fy nheulu'n dweud 'Be? Pam wyt ti'n mynd fanna?' Ond wnes i wneud llawer o ymchwil, darganfod lle oedd â nifer o adroddiadau da ac, er gwaetha'r ffaith bod fi erioed wedi hedfan i nunlle ar ben fy hun nac erioed wedi gwneud unrhywbeth tebyg i hyn o'r blaen, wnes i ddweud wrth fy hun 'fydd bob dim yn iawn' ac mi oedd o!
Yn fuan wedi i mi symud i Lerpwl, wnes i ddweud wrth fy nheulu bod fi'n hoyw - ond roedden nhw'n gwybod yn barod, ac mor hyfryd am y peth, 'doedd hi ddim yn big deal o gwbl.
Ond dwi'n cofio mynd i Tesco Bangor yn gwisgo Ugg boots. Yn Lerpwl, mae hogia' yn gwisgo Ugg Boots, mae'n hollol iawn, ond yn Bangor roedd pobl yn sibrwd a pwyntio. Ond mae pob lle yn wahanol a dwi'n parchu hynna, mae'n cŵl.
Mwya' ffug, gora' gyd
Dwi 'di bod wrth fy modd â'r edrychiad ffug a mae'r botox yn rhan o hyn. Felly dwi'n trio cael botox pob rhyw ddau neu dri mis i gadw'r frownlines oddi ar fy nhalcen a'r llinellau ger fy llygaid.
Dwi hefyd yn cael lip fillers, er mwyn gwneud fy ngwefusau'n fwy trwchus.
Dydy o ddim i bawb, dwi'n parchu hynna - mae pobl yn byw eu bywydau mewn ffyrdd gwahanol. Mae pobl wedi dweud pethau negative wrtha i ond fel dwi'n mynd yn hŷn dwi'n meddwl, wel dwi'n sengl, dwi'n rhedeg salon ac os na ti'n gwneud dim niwed i neb, wel pam lai!
Mae nghorff yn deml?
O ran y colli pwysau...pan on ni'n fengach, ro'n ni'n bwyta chocolate, chocolate, chocolate drwy'r amser ac yn yfed, smocio a jest yn gwneud fatha pawb arall. Eto pan wnes i symud i Lerpwl, do'n ni ddim yn hapus gyda'r ffordd o'n ni'n edrych. Ac ymysg y colur, y fake tan, y botox a'r hair transplant un o'r prif bethau o'n i eisiau newid oedd fy mhwysau.
Rŵan, yr unig ffordd o newid hyn yw drwy bod yn iach. Yn y ddwy, tair mlynedd diwethaf, dwi 'di newid fy ffordd o fyw a fy ffordd o fwyta, a mi ydw i'n credu bod yr hyn rydych chi'n rhoi yn eich corff yn adlewyrchu yn eich iechyd a'ch pwysau.
Felly dwi ddwi ddim yn yfad llawer [o alcohol] rŵan, ac yn bwyta'n eithaf iach. Cofiwch, mi gaf i un neu falle ddau ddrinc ar noson allan, a weithiau take away ar y penwythnos. Ond y rhan fwyaf o'r amser dwi'n trio cerdded bob man a dwi 'di dysgu fy hun i fwynhau bywyd a bwydydd iach.
Ydy hi'n amser stopio nawr?
Wel ar y dechrau ron ni'n reit embarrassed dweud wrth pobl bod fi'n mynd i gael hair transplant, oherwydd roedd yn anodd iawn cyfadda' bod fi'n colli fy ngwallt! Ers dipyn ro'n i wedi bod yn trio cuddio'r ffaith bod fi'n colli fy ngwallt drwy fynd allan yn gwisgo hetiau ac felly cael y transplant oedd y peth gorau dwi 'di wneud. Roedd hi'n rîli anodd i rhywun sydd eisiau edrych fel dol drwy'r amser i golli gwallt, felly rŵan rwy'n llawer hapusach.
Dwi'n sbio ar bethau eraill i gael, ond ar ôl i'r gwallt dyfu, ar wahân i ambell driniaeth botox bob hyn a hyn, fyddai'n eithaf hapus.
Er, fyddwn ni'n hoffi cael veneers ar fy nannedd - y mwyaf gwyn a mawr y gorau! Ond y peth ydy mae'n rhaid i chi newid o bob 15 mlynedd a 'dach chi erioed yn gwybod lle fyddwch chi mewn 15 mlynedd. Ond mae'n nannedd i'n fine felly gwell gadael nhw... am rŵan!
Efallai o ddiddordeb: