Diddordeb cynyddol mewn modiwlau hanes Cymru yn 'syndod'

  • Cyhoeddwyd
Owain Glyndŵr
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o fyfyrwyr yn troi at ddysgu am ffigyrau hanesyddol o Gymru fel Owain Glyndŵr - gan gynnwys nifer o Loegr a thu hwnt

Mae darlithwyr mewn hanes Cymru yn dweud eu bod "wedi synnu" o weld bod diddordeb cynyddol yn y pwnc.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r niferoedd sy'n dilyn rhai o fodiwlau'r Brifysgol Agored a Phrifysgol Bangor wedi codi'n aruthrol.

Dywedodd un darlithydd bod gan fyfyrwyr o Loegr ddiddordeb mewn astudio gwlad sy'n "gyfarwydd ond yn egsotig ar yr un pryd".

Yn ôl un myfyriwr o Sussex sy'n dilyn cwrs Hanes Cymru, mae'n gyfle i astudio "gwreiddiau" hanes Prydain.

'Astudiaeth achos diddorol'

Cafodd modiwl 'The Making of Welsh History' ei gynnig fel rhan o gwrs gradd Hanes y Brifysgol Agored am y tro cyntaf yn 2016.

Ers hynny, mae'r darlithydd Dr Richard Marsden wedi gweld niferoedd y myfyrwyr sy'n ei ddilyn yn tyfu.

"Roedden ni am gynnig modiwl llai, gan osod targed o 40 o fyfyrwyr. Cofrestrodd 76 o fyfyrwyr ac fe godwyd y targed i 75, a dyma ni'n gweld 96 yn cofrestru eleni," meddai.

Mae Dr Marsden yn cyfaddef fod y niferoedd hynny wedi ei "synnu".

Yn ogystal, dim ond 12% o'r rhai sy'n dewis dilyn y modiwl sy'n dod o Gymru, ac mae 81% yn dod o Loegr.

Mae'r modiwl hefyd yn fwy poblogaidd na modiwl y mae'r Brifysgol Agored yn ei gynnig am hanes yr Alban.

Pwysleisiodd Dr Marsden fod Cymru fel gwlad yn "cynnig astudiaeth achos o ddigwyddiadau mawr a themâu" sy'n berthnasol wrth astudio hanes Ewrop yn gyffredinol.

"Mae'r llywodraeth ddatganoledig yn gwneud Cymru yn ddiddorol i'w hastudio, a'r syniad o hunaniaeth genedlaethol, gyda hunaniaeth Gymreig yn amlwg o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw," meddai

"I fyfyrwyr o Loegr, mae Cymru'n lle cyfarwydd ond egsotig ar yr un pryd. Mae'n aml yn cael ei anghofio yn y meddylfryd Eingl-ganolog."

Niferoedd 'reit iach'

Mae'r Athro Huw Pryce, sy'n Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei "siomi ar yr ochr orau" gyda'r nifer sy'n dewis astudio Hanes Cymru drwy gyfrwng y Saesneg o flwyddyn i flwyddyn.

"Mae'r niferoedd wedi amrywio dros y blynyddoedd, ond ar hyn o bryd mae'n reit iach. Mae diddordeb gan bobl o bob man, ac rydym wastad wedi cael llawer o fyfyrwyr o Loegr," meddai.

Mae nifer y myfyrwyr sy'n dilyn rhai o fodiwlau hanes Cymru'r adran wedi codi eleni, gan gynnwys un cwrs ôl-raddedig sy'n edrych yn benodol ar gyfnod Llywelyn Fawr.

Ffynhonnell y llun, David Stowell/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwrs ôl-raddedig "The Age of Llywelyn ap Iorwerth" ym Mhrifysgol Bangor wedi denu 10 o fyfyrwyr eleni - tua pedwar sydd fel arfer yn dilyn y cwrs

"Mae'r galw yna, ac mae edrych ar Gymru yn benodol yn ein galluogi i ofyn cwestiynau eangach am hanes y byd," meddai'r Athro Price.

"Dwi'n meddwl byddai mwy o ddiddordeb petai Cymru yn dysgu hanes Cymru mewn ysgolion, ond mae 'na awydd i ddarganfod mwy hefyd, er bod hanes Cymru yn gallu cael ei hystyried fel hanes ymylol neu blwyfol.

"Mae 'na ddiddordeb mwy eang yn y gymdeithas hefyd, gyda phobol sydd wedi colli allan yn yr ysgol yn awyddus i ddarganfod mwy am hanes Cymru."

Chwilio am faes newydd

Penderfynodd Callum Dickson o Sussex ddilyn MA Hanes Cymru wedi iddo gwblhau ei radd yn yr adran Hanes, gan ddewis astudio hanes tywysogion Cymru.

"Pan rydych yn astudio ym Mangor, mae hanes Cymru o'ch amgylch ymhob man ac mae'n rhan o bob modiwl," meddai.

"Mae'r ffynonellau cynradd sydd ei angen arnoch wrth astudio yno neu lawr yn Aberystwyth."

Ffynhonnell y llun, Callum Dickson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Callum Dickson fod ganddo ddiddordeb mewn darganfod mwy am faes sydd ddim yn gyfarwydd i nifer o haneswyr

Yn ogystal, dywedodd Mr Dickson bod nifer o haneswyr yn chwilio am "niche".

"Mae nifer o fyfyrwyr o Loegr yn troi cefn ar feysydd ymchwil prysur neu boblogaidd, a dwi'n bersonol wedi cael fy nenu at feysydd dyw pobl ddim yn gyfarwydd â nhw."

Ychwanegodd ei fod yn ystyried astudio hanes Cymru'n berthnasol wrth "archwilio gwreiddiau Prydain".

"Mae gan Gymru a'i phobl gysylltiad i gyfnod cyn y Rhufeiniaid, ac mae'n rhan bwysig o dreftadaeth Prydain."