'Angen erlyn mwy' o droseddau yn erbyn pobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
hen ddynesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen cynyddu nifer yr erlyniadau yn erbyn y rhai sy'n troseddu yn erbyn pobl hŷn, yn ôl pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru.

Ond dywedodd y prif erlynydd, Barry Hughes, ei fod yn poeni nad oes digon o ddioddefwyr yn cofnodi'r troseddau yn eu herbyn.

O'r 35,000 o droseddau gafodd eu herlyn yng Nghymru'r llynedd, dim ond 250 oedd yn erbyn pobl hŷn.

Yn ôl Mr Hughes, o'r achosion ymhlith yr henoed ddaeth i law, cafodd tua 84% o ddedfrydau euog.

Twyll ar-lein

"Mae yna gyfran o droseddau yn erbyn pobl hŷn sydd ddim yn cyrraedd y llys," meddai Mr Hughes.

"Efallai bod y sefyllfa yma'n codi gan nad yw rhai pobl hŷn am gofnodi trosedd, gan eu bod nhw'n poeni na fydd eu sefyllfa'n cael ei chymryd o ddifrif neu eu bod nhw'n teimlo y gallai wneud pethau'n waeth iddyn nhw.

"Hoffwn sicrhau pobl hŷn fod yr achosion sy'n cael eu cyflwyno i'r heddlu yn cael eu hymchwilio."

Ddydd Llun mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn edrych o'r newydd ar bedwar achos sy'n ymwneud â dioddefwyr hŷn, fel rhan o'r cyfarfod craffu cyntaf ar y mater yng Nghymru a Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Carers UK
Disgrifiad o’r llun,

Mae troseddau'n gallu cael effaith fawr ar henoed, yn ôl Helena Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae'r gwasanaeth yn gofyn am adborth gan wahanol sefydliadau am y modd y maen nhw wedi cael eu herlyn.

Tra bod achosion ble mae pobl hŷn yn cael eu targedu gan ladron yn dal i ddigwydd, mae cynnydd wedi bod yn nifer y pensiynwyr sy'n cael eu sgamio ar y we neu drwy negeseuon testun.

Mae yna achosion hefyd ble mae troseddwyr yn gwneud ffrindiau gyda phobl hŷn er mwyn defnyddio eu cartrefi i gynnal gweithgareddau anghyfreithlon.

Yn ôl yr Asiantaeth Safonau Masnach, mae person hŷn dros ddwywaith yn fwy tebygol o farw neu fynd i gartref gofal o fewn blwyddyn ar ôl dioddef trosedd yn eu herbyn.

'Effaith fawr'

Dywedodd Helena Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, bod angen cydnabod bod troseddu'n gallu "sbarduno dirywiad" yn lles ac iechyd dioddefwyr.

"Mae nifer y troseddau yn erbyn pobl hŷn yn parhau i fod yn eithaf isel, ond mae eu heffaith yn gallu bod yn fawr iawn ar y ffordd mae pobl hŷn yn teimlo," meddai.

"Gall pryder olygu eu bod nhw'n aros yn eu cartrefi a'n gwrthod ymddiried mewn pobl."

Unwaith mae trosedd yn cael ei nodi, meddai Barry Hughes, mae'n cael ei phrosesu'n gyflym.

"Hoffwn weld bod gan bobl hŷn yr hyder i hysbysu'r heddlu am droseddau ac i weld cynnydd yn y nifer yr achosion ry'n ni'n eu herlyn," meddai.