Sioeau Dolig: Rhannwch eich lluniau

  • Cyhoeddwyd

Boed yn angel, yn fugail, gŵr doeth neu'n anifail, mae plant ledled Cymru yn mynd i fod yn serennu mewn sioeau Nadolig yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ac er mwyn dathlu dechrau'r Ŵyl, mae Cymru Fyw am i chi rannu lluniau o'ch sêr bach chi gyda ni drwy e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk.

Yn y cyfamser, mae rhai o enwogion Cymru wedi bod yn hel atgofion am sioeau Dolig y gorffennol yn barod...

Sara Gregory - Actores

Un o Rydaman ydi Sara, sydd wedi mwynhau llwyddiant efo'r gyfres Alys ac yn ddiweddar wedi bod yn rhan o'r gyfres Byw Celwydd.

Mae hi'n meddwl ei bod hi tua 4 oed yn y llun ac wedi'i gwisgo fel angel.

Myrddin ap Dafydd - Prifardd a'r Archdderwydd nesaf

Er mai dwy Gadair Eisteddfodol mae Myrddin wedi eu hennill, dyma fo yn gwisgo coron yn nrama Nadolig Ysgol Dyffryn Conwy yn 1971.

Gruffydd Wyn - Canwr

Daeth Gruffydd i amlygrwydd ar sioe Britain's Got Talent eleni, ond mae'r llun yma'n profi roedd ganddo dalent perfformio erioed.

Meinir Gwilym - Cerddor/cyflwynydd

Dyma Meinir Gwilym fach yn mwynhau yng nghyngerdd Nadolig Ysgol Henblas, Llangristiolus. Bellach mae'r gantores yn mwynhau yn yr ardd ac yn cyflwyno Garddio a Mwy ar S4C.

Dewi Pws - Actor/cerddor

Dyma lun prin o Dewi'n blentyn gyda llond pen o wallt yn actio fel corrach mewn cyngerdd ysgol, ac mae'r sgidiau gwyrdd oedd ganddo am ei draed yn y cyngerdd dal ganddo!

Manw Lili Robin - Cantores

Manw oedd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Junior Eurovision yn Minsk, Belarws fis Tachwedd eleni. Ond dyma hi pan yn 7 oed mewn cyngerdd Nadolig wedi gwisgo fel coeden Nadolig.

Carwyn Jones - Actor

Dyma Carwyn yn llechu wrth ymyl y goeden Dolig. Efallai fod e wedi'i rewi mewn amser gan taw ef oedd yn actio rhan y Tad yn y gyfres hynod boblogaidd i blant, Deian a Loli.

Ydy eich plant chi yn perfformio mewn sioe Nadolig eleni? Ydych chi eisiau dangos eich ymgais wych ar wisg camel i Gymru? Dyma eich cyfle. Cofiwch anfon eich lluniau at cymrufyw@bbc.co.uk