Eira ar y copaon... beth yw'r rhagolygon?
- Cyhoeddwyd
Mae yna eira wedi disgyn ar yr ucheldiroedd yng Nghymru dros y diwrnod neu ddau ddiwethaf. Ond a oes mwy ar y ffordd?
Gofynnodd Cymru Fyw i'r cyflwynydd tywydd Rhian Haf beth sydd ar y gweill o ran y tywydd.
"Mae hi dal yn dymor yr hydref tan ddechrau Rhagfyr, pan fydd y calendr meteoroleg yn dynodi dechrau'r gaeaf," meddai Rhian Haf.
"Yn ôl y calendr astronomegol, 21 Rhagfyr fydd hynny.
"Does dim eira i ddod yn y dyddiau nesa. Fydd hi'n fwynach am gyfnod wrth i'r gwynt chwythu o'r de, ond yn oerach eto dros y penwythnos efo gwynt dwyreiniol, ac ar ddechrau wythnos nesa."
Ond yn ôl Rhian fydd hi ddim mor oer ag mae hi wedi bod yn ddiweddar.
"Mi fydd hi'n fwynach wrth i law gyrraedd o'r gorllewin ganol yr wythnos," meddai.
"Mae eira'n annhebygol yn y dyddiau nesa', gan y bydd hi'n sych ar y cyfan - dim ond rhai cawodydd o law yn y de."
Ond y cwestiwn mawr ydi a fydd hi'n bosib darogan os bydd hi'n 'Ddolig Gwyn'?
"Mae hi'n llawer rhy gynnar i gyhoeddi rhagolygon y Dolig, ond 'da ni'n llawer mwy tebyg o gael Pasg gwyn na Dolig gwyn!"
Os oes gennych chi luniau o rhai o gawodydd eira cynta' gaeaf, anfonwch nhw aton ni: cymrufyw@bbc.co.uk
Hefyd o ddiddordeb: