Uwch Gynghrair Lloegr: Everton 1-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd yn parhau yn y tri isaf ar waelod yr Uwch Gynghrair wedi colled o 1-0 oddi cartref yn erbyn Everton.
Roedd yr hanner cyntaf yn dawel iawn ar y cyfan, gydag Everton yn rheoli'r meddiant ond ddim wir yn achosi unrhyw broblemau i Neil Etheridge yn y gôl.
Andre Gomes ddaeth agosaf i'r tîm cartref wedi iddo basio dau o amddiffynwyr Caerdydd cyn ergydio heibio'r postyn o ongl dynn.
Llwyddodd y tîm cartref i fynd ar y blaen wedi 59 munud ar ôl i ergyd Theo Walcott wyro i lwybr Gylfi Sigurdsson a darodd y bêl i mewn o wyth llath.
Victor Camarasa daeth agosaf i unioni'r sgôr gydag ergyd o bell ond fe wthiodd Jordan Pickford y bêl allan am gic gornel.
Roedd Caerdydd yn apelio am gic o'r smotyn ar ôl i Greg Cunningham gael ei dynnu lawr gan Seamus Coleman gyda deg munud yn weddill, ond roedd y dyfarnwr yn anghytuno gyda chwynion yr Adar Gleision.
Mae Caerdydd yn parhau yn yr 18 safle yn y tabl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2018