Gwelliannau i ddiogelwch Afon Tawe 'dal yn annigonol'
- Cyhoeddwyd
Mae mam i ddyn ifanc wnaeth farw yn Afon Tawe wedi dweud bod diogelwch yno'n parhau i fod yn annigonol.
Cafodd corff Alex Pavlou, myfyriwr meddygol 19 oed, ei ddarganfod yn yr afon ym mis Mai 2015.
Mae Cyngor Abertawe yn dweud eu bod yn gweithio i atal trychinebau pellach gyda mesurau diogelwch newydd a thrwy rybuddio yfwyr i gadw'n glir o ddŵr.
Clywodd cwest i'w farwolaeth yn 2017 fod yna "dystiolaeth gref" fod Mr Pavlou yn feddw'r noson honno, a bod ganddo gyflwr ar ei galon.
Cafodd Mr Pavlou ei weld ddiwethaf yn yr afon gan ddyn oedd yn sefyll ar bont gerllaw.
Dywedodd y llygad dyst ei fod wedi chwilio am gylch achub bywyd, ond bod un ar goll o'r man lle dylai fod yn cael ei gadw.
'Angen gwneud mwy'
Cyhoeddodd y cyngor newidiadau i ddiogelwch dŵr yn gynharach eleni ar ôl i'r cwest ddarganfod bod y diffyg cylch achub bywyd ger Afon Tawe wedi cyfrannu at farwolaeth Mr Pavlou.
Mae'r newidiadau'n cynnwys marcio offer achub gyda GPS fel y gall y gwasanaethau brys eu canfod yn gyflym os oes angen, ailasesu lleoliad cymhorthion achub ac ychwanegu arwyddion gyda rhif ffôn gall pobl alw os ydyn nhw'n sylwi bod cymhorthion ar goll neu wedi'u fandaleiddio.
Dywedodd mam Mr Pavlou, Donnie Yuen, bod gwelliannau sylweddol wedi bod ond eu bod nhw ddim yn mynd yn ddigon pell.
"Dwi'n meddwl pe byddai yna fwi wedi bod ar y bont, bydde Alexander wedi cael cyfle," meddai.
Ond dywedodd y cyngor y byddai rhoi cylchoedd achub bywyd ar bontydd ffordd yn "peryglu claf yn y dŵr ymhellach".
Mae Ms Yuen, 56, hefyd yn galw ar fwy o raffau i gael eu rhoi ar hyd ochr yr afon er mwyn i bobl allu dringo arnyn nhw.
Dywedodd y cyngor y byddai hyn yn rhywbeth y byddan nhw'n ei ystyried.
Wrth gofio am ei mab, dywedodd Ms Yuen: "Roedd e'n unigryw... bydde fe'n helpu pobl eraill.
"Roedd e'n arbennig iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2017