Y DJ oedd yn hybu bandiau 'tanddaearol' Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Wrth i BBC Radio Cymru ddathlu 40 mlynedd o sesiynau cerddorol gan fandiau Cymru mae'r orsaf hefyd wedi bod yn cofio'r DJ o Loegr oedd yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn gyson ar Radio 1 yn yr 1980au a'r 90au.
Roedd John Peel yn un o gyflwynwyr mwyaf adnabyddus Radio 1, ac roedd yr iaith i'w chlywed yn rheolaidd ar ei raglen wythnosol i fandiau newydd.
Roedd hi'n rhaglen ddylanwadol ar y pryd oedd yn hybu a dangos parch at iaith a diwylliant y bandiau Cymraeg - a hynny mewn oes heb y we a'r dewis o orsafoedd sydd ar gael heddiw.
Dechreuodd ei ddiddordeb wedi i Rhys Mwyn dynnu ei sylw at yr albwm amlgyfrannog Cam o'r Tywyllwch.
Ond doedd y bandiau roedd yn eu chwarae ddim bob amser yn cael yr un sylw ar Radio Cymru ar y pryd.
Llai o sylw ar Radio Cymru
Cafodd 11 o fandiau band Cymraeg sesiynau ganddo ar Radio 1 sef Yr Anhrefn, Datblygu, Fflaps, Ian Rush, Gorky's Zygotic Mynci, Super Furry Animals, Melys, MC Mabon, Zabrinsky, Llwybr Llaethog a Tystion.
"Y mwyaf tanddaearol oedd dy fand 'di, y lleia o airplay roeddat ti'n debyg o'i gael ar Cadw Reiat [rhaglen bore Sadwrn Radio Cymru ar y pryd]," meddai Rhys Mwyn, gitarydd yr Anrhefn, y band cyntaf i wneud sesiwn Cymraeg gyda John Peel yn 1986.
"Roedd bandiau fel Anrhefn yn cael rhywfaint o airplay ar Cadw Reiat ond doedd bandiau fel Fflaps ddim.
"A Datblygu hefyd yn cael llai.
"Wedyn roedd y sefyllfa od yma lle roedd bandiau oedd ddim yn ffitio mewn i'r mainstream Cymraeg yn gwneud sesiynau i Peel.
"Y bands roedd Peel yn fwynhau fwyaf oedd Datblygu, Llwybr Llaethog a'r Fflaps.
"Dwi wastad yn deud bod o'n licio bandiau oedd ddim mewn tiwn a ddim mewn amser! Oedd hynny'n mynd lawr yn well efo fo!"
'Mytholeg'
Ond mae ychydig o 'fyth' wedi datblygu fod Peel yn rhoi mwy o lwyfan i rai bandiau na Radio Cymru meddai Rhys Mwyn.
Fe ddigwyddodd hynny yn achos y Fflaps meddai a "dyna lle mae'r myth yma wedi dod".
"Roedd o'n siwtio ni i gyd i ddweud bod ni ddim yn cael sylw achos roedd hynna'n creu sîn tanddaearol," meddai.
"Ond go iawn roedd caneuon fel Rhywle yn Moscow gan Anhrefn yn cael eu chwarae.
"Ond un rhaglen oedd - Cadw Reiat. Doeddat ti byth yn mynd i gael lot o sylw.
"Dwi'n gwybod bod y naratif yna'n bodoli, 'dydan ni ddim yn cael ein chwarae', ond fysan nhw ddim yn cael eu chwarae ar brif raglenni Radio 1 chwaith - ond roeddan nhw'n addas ar gyfer John Peel."
Dysgu Cymraeg
Fe gyflwynodd John Peel yr iaith a'r diwylliant cerddorol cyfoes Cymraeg i gynulleidfa ehangach tu hwnt i Glawdd Offa.
Roedd yn adnabod gogledd Cymru yn dda - roedd wedi ei fagu yn Sir Amwythig a gwneud ei wasanaeth milwrol yn y Fali ar Ynys Môn gan dreulio sawl gwyliau haf gyda'i fodryb a'i ewythr yn Rhosneigr.
Dywedodd am Datblygu, a gafodd bum sesiwn i gyd ar ei raglen: "You'd have to be a bit of a ninny to ignore Datblygu. This is the band that makes me want to learn the language"
"Mae'n eitha anhygoel ei fod wedi pigo fyny ar y bandiau yma a wedi rhoi sylw i bawb," meddai Rhys Mwyn.
"Roedd pobl yn gwrando ar y sesiynau - roeddan ni'n gallu mynd i ganu i Newcastle a pobl yn adnabod y caneuon naill ai ar ôl airplay neu sesiwn ar Peel."
Mae pethau'n wahanol yng Nghymru heddiw a bandiau newydd o bob math yn cael eu chwarae ar raglenni Radio Cymru meddai Rhys Mwyn, sy'n cyflwyno rhaglen ar yr orsaf ar nos Lun.
Mae gwerth 40 mlynedd o rai o sesiynau Radio Cymru i'w clywed mewn podlediadau newydd gyda Cerys Matthews yn cyflwyno a'r artistiaid eu hunain yn sôn am gefndir y caneuon.
Ewch i ap BBC Sounds a chwilio am Sesiynau BBC Radio Cymru gyda Cerys Matthews neu ewch i wefan Radio Cymru.
Dywed yr orsaf hefyd ei bod yn darlledu sesiynau newydd i ddangos ei "buddsoddiad parhaol yn y diwylliant poblogaidd drwy gyfrwng y Gymraeg".
Hefyd o ddiddordeb:
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2018