Jones 'wedi rhybuddio' Sargeant am ei ymddygiad yn 2014

  • Cyhoeddwyd
argraff artist o carwyn jones yn y cwest
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o Carwyn Jones yn cael ei holi yn y cwest gan Leslie Thomas QC

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud ei fod wedi rhybuddio Carl Sargeant yn 2014 ynglŷn â'i ymddygiad a'i yfed.

Daeth hynny yn dilyn llythyr dienw gafodd ei anfon oedd yn gwneud honiadau yn erbyn Mr Sargeant.

Erbyn 2017 roedd honiadau eraill wedi cael eu gwneud yn erbyn y cyn-weinidog "nad oedd modd eu hanwybyddu", yn ôl Mr Jones.

Bu farw Mr Sargeant ym mis Tachwedd 2017, ychydig ddyddiau wedi i Mr Jones ei ddiswyddo yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at ferched.

Roedd Mr Sargeant yn gwadu'r cyhuddiadau.

Cyhuddo tyst o gelwydd

Clywodd y cwest ddydd Mercher ei bod yn bosib hefyd bod un o'r tystion wedi dweud celwydd wrth y crwner.

Dywedodd datganiad gan ddirprwy arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Bernie Attridge, ei fod yn credu "mai'r diswyddiad laddodd fy ffrind".

Ond dywedodd cyfreithwraig Mr Jones, Cathy McGahey, ei bod yn ymddangos fod gan Mr Attridge "wybodaeth o ymddygiad fyddai wedi gwneud Mr Sargeant yn bryderus".

Ychwanegodd bod tystiolaeth arweinydd y cyngor, Aaron Shotton, yn "gwrthddweud ychydig o dystiolaeth Mr Attridge."

Dywedodd Ms McGahey bod Mr Attridge wedi awgrymu ar 5 Tachwedd 2017 - ddeuddydd cyn marwolaeth Mr Sargeant - bod Mr Sargeant wedi gwneud rhywbeth "allai fod wedi arwain at ei garcharu".

"Mae arwyddo'r datganiad gwirionedd pan dy'ch chi'n gwybod bod rhywbeth dy'ch chi'n ei ddweud yn anghywir yn ddirmyg llys," meddai.

Fe wnaeth y crwner John Gittins glywed cais i ystyried y dystiolaeth newydd yma, ond fe wrthododd, gan ddweud bod ganddo ddigon i wneud ei rôl.

Cafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 7 Tachwedd 2017, bedwar diwrnod ar ôl colli ei swydd yng nghabinet Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Jones yn y cwest ei fod am ad-drefnu'r cabinet cyn iddo fod yn ymwybodol o'r honiadau yn erbyn Mr Sargeant.

Gan drafod yr honiadau a'r ad-drefnu, dywedodd Mr Jones: "Doedd dim modd dad-gysylltu'r ddau beth."

Llythyr dienw

Dywedodd Mr Jones ei fod wedi derbyn llythyr dienw yn 2014 gan "rhywun o fewn ei etholaeth yn y Blaid Lafur" yn dweud nad oedd Mr Sargeant yn "ffit i fod o gwmpas merched".

Ychwanegodd ei fod wedi dangos y llythyr i Mr Sargeant, a'i rybuddio "am ei ymddygiad a faint yr oedd yn ei yfed".

Doedd Mr Sargeant "ddim yn alcoholig", yn ôl Mr Jones, ond roedd y cwmni yr oedd yn ei gadw'n "griw o yfwyr go galed".

Erbyn 2017, meddai Mr Jones, roedd yr agwedd gyhoeddus tuag at aflonyddu "wedi newid" ac roedd angen iddo ef, fel Prif Weinidog, "ddelio gyda honiadau yn y ffordd gywir".

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r cyn-Weinidog Cymunedau, Carl Sargeant, yn 49 oed

Dywedodd ei fod wedi clywed sïon am ymddygiad Mr Sargeant eto mewn cyfarfod ar 18 Hydref 2017, ond ei fod "eisiau gweld tystiolaeth".

Unwaith y cafwyd "enwau", ac yna'n ddiweddarach honiad ysgrifenedig, roedd "dyletswydd i edrych ymhellach".

Gofynnwyd i Mr Jones beth oedd y gwahaniaeth rhwng 2014, pan roddodd wybod i Mr Sargeant am yr honiad, a 2017 pan benderfynodd peidio.

"Ar y pwynt yna roedd yn bwysig gwarchod cyfrinachedd yr achwynwyr," meddai Mr Jones.

Ychwanegodd: "Petawn i wedi rhoi mwy o fanylion iddo am yr honiadau... byddai wedi gwybod yn syth, dwi'n amau, pwy oedd y bobl hynny a doeddwn i methu cymryd y risg yna."

Neges Twitter

Pan ddywedodd Mr Jones wrth Mr Sargeant am yr honiadau ar y diwrnod y cafodd ei ddiswyddo, ymateb Mr Sargeant oedd dweud nad oedd yn "cydnabod" yr honiadau.

"Mewn gwleidyddiaeth, dyw hynny ddim yn wadiad," meddai Mr Jones. "Roedd yn beth od i'w ddweud."

Dywedodd Mr Jones wrth Mr Sargeant am siarad gyda'i undeb llafur os oedd yn teimlo bod angen cyngor cyfreithiol, ac i "gadw'i ben i lawr" a "dweud dim".

Wedi hynny fodd bynnag fe drydarodd Mr Sargeant ynghylch ei ddiswyddiad, gan ddweud ei fod wedi colli ei swydd yn y cabinet oherwydd ei ymddygiad honedig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Carl Sargeant, gan gynnwys ei fab Jack a'i weddw Bernie, wedi bod yn bresennol yn ystod y cwest yn Rhuthun

"Doedd dim angen gwirfoddoli'r wybodaeth yna," meddai Mr Jones. "Roedd ffordd fwy addfwyn o wneud pethau."

Ychwanegodd ei fod yn credu bod Mr Sargeant yn "annoeth iawn" i bostio'r neges, a bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod "diffodd tanau" ar ôl hynny.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi "colli cwsg" wrth feddwl am ddiswyddo'r cyn-weinidog, ond y byddai cael gwared ar Mr Sargeant "ar ben ei hun" wedi bod yn "llawer mwy creulon" nag ad-drefnu ei gabinet.

Mynnodd Mr Jones nad oedd arwyddocâd i'r ffaith ei fod wedi defnyddio'r gair "digwyddiadau" yn hytrach na "honiadau" mewn cyfweliadau i'r wasg y diwrnod cyn marwolaeth Mr Sargeant.

"Mae'n eithaf clir o'r adroddiad newyddion fod yr adroddiad newyddion yn trafod honiadau," meddai.

'Rôl fugeiliol'

Wrth gael ei holi gan Leslie Thomas QC ar ran y teulu Sargeant, dywedodd Mr Jones ei fod wedi gofyn i Ann Jones AC gyflawni "rôl fugeiliol" rhwng Mr Sargeant a'r grŵp Llafur wedi ei ddiswyddiad.

Cafodd y trefniant hwnnw ei sefydlu ar brynhawn Gwener 3 Tachwedd, sef diwrnod yr ad-drefnu.

Dywedodd Mr Jones mai'r syniad oedd bod Ms Jones yn gallu "siarad gyda fe", a bod modd i Mr Sargeant godi materion y tu hwnt i rai "gwleidyddol".

Roedd Ann Jones "hefyd eisiau sicrhau bod Carl yn iawn ar lefel bersonol hefyd", meddai, ac roedd hi'n deall natur y byd gwleidyddol.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Jones ddydd Sul ei fod yn croesawu'r cyfle i roi ei ochr ef o'r stori

Ar ôl i ddau achwynydd, Miss A a Miss B, wneud honiadau yn 2017 am Mr Sargeant, cysylltwyd ag achwynydd arall, Miss C - a wnaeth ei honiad gwreiddiol hi yn 2016 - i ofyn a oedd hithau am wneud cwyn.

Gofynnodd Mr Thomas wrth Mr Jones a oedd hyn wedi digwydd er mwyn "gosod y llwyfan" i "gael gwared" â Mr Sargeant.

Mewn ymateb dywedodd Mr Jones: "Fe allen i fod wedi cael gwared â Carl o'r cabinet am ddim rheswm o gwbl."

Yn ystod y cwest dywedodd Mr Jones hefyd nad oedd yn ymwybodol fod Mr Sargeant yn dioddef o iselder nes ar ôl ei farwolaeth.

'Neb wedi cael gwybod'

Clywodd y cwest ddydd Mawrth fod yna gŵyn "sylweddol" fod Mr Sargeant wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at ddwy ddynes yn yr wythnosau cyn iddo farw.

Fe adawodd Mr Sargeant lythyr at ei deulu yn dweud eu bod "wedi eu gadael i lawr".

Ddydd Mercher rhoddodd ymgynghorydd arbennig Carwyn Jones, Matt Greenough, dystiolaeth bellach gan gadarnhau ei fod yn bresennol wrth i Carwyn Jones gyfarfod pob aelod cabinet ac eithrio un ar ddiwrnod yr ad-drefnu.

Dywedodd Mr Greenough nad oedd yn credu y gallai'r Prif Weinidog fod wedi rhoi gwybod i'r un o'r gweinidogion hynny am yr honiadau yn erbyn Mr Sargeant heb iddo wybod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwest yn cael ei glywed gan y crwner John Gittins

Yn dilyn hynny clywodd y cwest gan Jayne Runeckles, ymgynghorydd arbennig arall i Carwyn Jones ar y pryd, a ddywedodd ei bod wedi trafod ad-drefnu'r cabinet yn haf 2017 gyda "Matt a'r Prif Weinidog".

Un o'r rhesymau am wneud hynny, meddai, oedd "addewid" gafodd ei wneud gan Mr Jones i un AC y byddai'n ei ychwanegu i'r cabinet.

Pan dderbyniodd Mr Greenough honiad ysgrifenedig am Mr Sargeant ar 1 Tachwedd, dyna oedd y "ffactor tyngedfennol" a benderfynodd ei fod yn cael ei ddiswyddo.

Mewn ymateb i gwestiwn gan y crwner yn gofyn allai'r ad-drefnu fod wedi cael ei oedi yn dilyn yr honiad, dywedodd Ms Runeckles y byddai hynny wedi bod yn anodd.

Pan ofynnodd brawd Mr Sargeant, Andy, wrthi a wnaeth hi unrhyw beth i gynnig cymorth iddo, dywedodd Ms Runeckles: "Wnes i ddim byd."

Ychwanegodd: "Dwi wedi gweithio gyda gwleidyddion ers 15 mlynedd. Maen nhw'n byw bywydau bregus ar fympwy'r etholwyr ac mae hynny'n rhywbeth maen nhw'n ei dderbyn... gwybod y gall rhywbeth fel hyn ddigwydd i chi."

Mae'r cwest yn parhau.