Pryder am gyflenwadau coed Nadolig yn sgil yr haf poeth

  • Cyhoeddwyd
Coeden nadolig

Ar drothwy'r ŵyl mae tyfwyr coed Nadolig wedi dweud iddyn nhw gael blwyddyn heriol.

Fe arweiniodd yr haf hir, cynnes at golli "nifer sylweddol" o goed ifanc.

Yn ôl Cymdeithas Tyfwyr Coed Nadolig Prydain, mae rhai o'u haelodau wedi colli hyd at 50% o'r cnwd gafodd ei blannu yn y gwanwyn.

Gallai effeithio ar gyflenwadau coed Nadolig ymhen wyth i 10 mlynedd, tra bod yna bryder bod llai o goed bach ar gael eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Morgan y bydd rhaid iddo blannu 20,000 o goed ychwanegol y flwyddyn nesaf er mwyn parhau â'u gyflenwad

Mae'r gymdeithas, sy'n cynrychioli rhyw 320 o ffermydd ledled Prydain, yn annog y cyhoedd i gefnogi tyfwyr lleol a phrynu coed go iawn yn hytrach na rhai ffug.

Collodd Rob Morgan, sy'n rhedeg fferm coed Nadolig fwyaf Cymru ar Benrhyn Gŵyr ger Abertawe, draean o'r 30,000 o goed ifanc yr oedd wedi eu plannu eleni.

"Roedd haul crasboeth yr haf wedi crasu'r gwreiddiau a'u sychu nhw... colledion o ryw £7,000," eglurodd.

Mae'n gallu cymryd 10 mlynedd i goeden Nadolig dyfu i aeddfedrwydd llawn.

'Dawnsio drwy'r caeau'

Dywedodd Mr Morgan y bydd rhaid iddo blannu 20,000 o goed ychwanegol y flwyddyn nesaf er mwyn parhau â'i gyflenwad.

"'Da ni wedi bod drwy bob emosiwn ar fy fferm - o argyfwng BSE i bopeth arall. 'Da chi'n mynd trwy gyfnodau da a rhai gwael ond roedd hi'n anodd iawn gwylio brwydr y coed yma eleni."

Ar un cyfnod, roedd yn ofni y byddai'r coed mwy yn marw hefyd wrth i'r cyfnod sych barhau, gan gyfaddef iddo "ddawnsio drwy'r caeau" pan ddaeth glaw yn y pendraw.

Yn bryderus am effeithiau hirdymor newid hinsawdd, mae bellach yn ystyried newid y mathau o goed mae'n eu plannu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Reynolds o Gymdeithas Tyfwyr Coed Nadolig Prydain yn annog pobl i gefnogi tyfwyr lleol yn sgil yr anawsterau eleni

Mae Stephen Reynolds, sy'n cynrychioli Cymru ar bwyllgor Cymdeithas Tyfwyr Coed Nadolig Prydain, yn cytuno bod eleni wedi bod yn flwyddyn anarferol sydd wedi achosi anawsterau i nifer o ffermydd.

Mae ganddo 500,000 o goed wedi eu plannu ar ryw 300 erw ym Mhowys, tra'i fod hefyd yn rhedeg fferm coed Nadolig Tŷ Cerrig ym Mro Morgannwg.

'Effaith hirdymor'

"Roedd unrhyw blanhigion a gafodd eu plannu'n hwyrach yn y tymor wedi dioddef, mae rhai wedi colli hyd at 50% o'u coed ac mewn rhai ardaloedd mi drigodd yr holl blanhigion ifanc."

"Mi fydd hynny'n cael effaith hirdymor - mae eisoes yn cael effaith ar nifer y planhigion bach sydd ar gael."

Ond ychwanegodd bod y coed hŷn, mwy - gyda'u gwreiddiau'n ddwfn yn gallu cyrraedd cronfeydd wrth gefn o dan y ddaear - wedi elwa o'r holl haul ac felly mi fydd yna gnwd da o goed Nadolig eleni.

Ym Mro Gŵyr, dywedodd Mr Morgan ei fod eisoes wedi cael nifer o ymholiadau gan bobl oedd am orffen defnyddio coed artiffisial yn dilyn yr holl sylw diweddar ynglŷn â phroblem gwastraff plastig yn y moroedd.

"Gobeithio y bydd pobl yn prynu mwy o goed wrtha' i eleni, fydd yn gymorth i'r dyfodol," meddai.