Cleifion eraill 'wedi ymosod ar glaf iechyd meddwl'
- Cyhoeddwyd
Mae claf iechyd meddwl o Gymru wedi dweud bod cleifion eraill wedi ymosod arni pan oedd hi'n cael ei chadw mewn uned yn Lloegr.
Bu'n rhaid i'r claf hefyd aros dan glo yn yr uned adfer am bron i flwyddyn hyd yn oed ar ôl cael ei rhyddhau o fan cadw, yn ôl adroddiad.
Fe wnaeth Ms A gwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am y gofal a dderbyniodd.
Dywedodd adroddiad yr Ombwdsmon fod y claf ei "siomi'n sylweddol" gan y gwasanaethau iechyd, a bod y sefyllfa yn "bryderus".
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, oedd yn gyfrifol am ei gofal, eu bod nhw'n sicrhau fod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu er mwyn mynd i'r afael â gwraidd yr oedi.
Roedd Ms A yn glaf yng Nghymru dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ond symudodd yn ddiweddarach i ysbyty diogel yn Lloegr i fod yn nes at ei theulu ac i ganiatáu llwybr haws i'r gymuned lle'r oedd hi'n dymuno byw.
Rhyddhawyd y claf o'i man cadw ym mis Mawrth 2016, ond cytunodd i aros fel claf anffurfiol yn yr uned nes bod ôl-ofal a llety byw lle ceir cefnogaeth ar gael.
Arhosodd Ms A yn glaf mewnol yn yr ysbyty am bron i flwyddyn ar ôl cael ei rhyddhau oherwydd oedi rhwng yr awdurdodau iechyd, ac yn yr amser hwnnw, dywedodd fod cleifion eraill wedi ymosod arni'n gorfforol.
Dywedodd y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) yn Lloegr na fydden nhw'n derbyn atgyfeiriad gan y Bwrdd Iechyd nes bod Ms A wedi cofrestru â meddyg teulu lleol, wedi'i rhyddhau o'r ysbyty ac yn byw mewn cyfeiriad preswyl lleol.
Ond roedd hynny'n rhoi Ms A mewn cyfyng gyngor, gan fod y darparwyr tai â chymorth ddim yn derbyn atgyfeiriad i'w hasesu am leoliad heb fewnbwn gan y TIMC lleol.
'Sefyllfa bryderus'
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i godi'r mater o ofal trawsffiniol.
Yn ôl Mr Bennett, cafodd Ms A ei siomi'n sylweddol gan wasanaethau iechyd ar adeg allweddol yn ei hadferiad.
"Cafodd ei thargedu gan gleifion eraill yn ystod ei harhosiad fel claf anffurfiol, ac yn anffodus, methodd y Bwrdd Iechyd â darparu amgylchedd diogel iddi hi yn ystod y cyfnod hwn.
Credaf fod hawliau dynol Ms A wedi cael eu cyfaddawdu gan y methiannau gafodd eu hadnabod."
Ychwanegodd: "Rwy'n bryderus o'r sefyllfa 'Catch-22' a'r materion systematig gafodd eu hadnabod yn fy adroddiad."
'Diffyg gofal llwyr'
Dywedodd Rob Behrens, Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd: "Mae cadw rhywun dan orchymyn oherwydd rhesymau biwrocratiaeth yn amharu ar eu hawliau dynol ac yn dangos diffyg gofal llwyr.
"Rhaid i'r GIG yng Nghymru a Lloegr gydweithio i greu canllawiau ar y cyd ar gefnogi cleifion iechyd meddwl bregus sy'n adleoli o un wlad i'r llall yn y DU, i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto."
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cytuno i sawl argymhelliad, gan gynnwys darparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A am y methiannau gafodd eu canfod.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Tra bod Ms A wedi dewis aros yn yr ysbyty... dylen ni fod wedi parhau i asesu effaith y trefniadau hynny ar ddiogelwch ac iechyd Ms A.
"Rydyn ni'n derbyn na ddylai'r adleoli fod wedi cymryd cyhyd ac rydyn ni'n ymddiheuro yn ddiamod am hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd20 Mai 2018