Gwyddonwyr Cymru'n arwain y byd i adnabod mathau o ffliw
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr o Gymru yn arwain y byd yn yr ymdrech i adnabod pa fathau o ffliw fydd yn lledaenu ym Mhrydain ac Ewrop yn ystod y gaeaf.
Mae tîm yn labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd yn defnyddio'r "genhedlaeth nesaf" o dechnoleg i ddarllen a dehongli'n gyflym côd geneteg samplau o ffliw.
Fe allan nhw wneud hyn ddyddiau yn unig ar ôl i'r samplau gael eu casglu o gleifion mewn ysbytai a meddygfeydd.
Mae hyn yn golygu y gall y gwyddonwyr ddilyn mathau o ffliw "mewn amser real" wrth iddyn nhw ymddangos - a hynny'n gyflymach na mewn canolfannau eraill.
'Arbennig o bwysig'
O ganlyniad, y tymor hwn mae carfan sylweddol o'r samplau ffliw sydd wedi eu cofnodi ar gronfeydd data rhyngwladol wedi dod o Gymru.
Felly mae'r Rhyl, Castell-nedd, Penarth ac Abertawe yn ymddangos ochr yn ochr â Hong Kong a New Mexico fel y safleoedd lle mae'r wybodaeth ddiweddaraf wedi'i gasglu.
"Hyd yn hyn yn Ewrop, y tymor hwn, ni yw'r unig wlad i gasglu llawer iawn o ddata genomig," meddai Dr Tom Connor, un o arweinwyr y tîm.
"Felly, os edrychwch chi ar y cronfeydd data rhyngwladol, fe welwch fod y mwyafrif o samplau hyd yma yn dod o Gymru - ac mae hynny'n arbennig o bwysig oherwydd ar ddechrau tymor mae angen i ni ddeall sut fydd ffliw yn ymddangos ac esblygu.
"Mae cydweithwyr yn yr Unol Daleithiau a'r Swistir wedi bod yn ein llongyfarch ni."
Gaeaf heriol
Mae gwaith y tîm yn hollbwysig er mwyn deall pa fath o dymor ffliw y gwelwn ni eleni.
Hyd yn hyn mae'r gwaith yn awgrymu mai H1N1 sy'n debygol o fod y prif straen ffliw y gaeaf hwn - straen sy'n cael mwy o effaith ar gleifion iau, sy'n debygol o allu ymladd yn erbyn yr afiechyd.
Mae'r dadansoddiad hefyd yn dangos bod brechlyn ffliw eleni yn "cyfateb yn dda iawn yn enetig" i'r straen hwnnw.
Llynedd oedd un o'r tymhorau ffliw mwyaf heriol ers bron i ddegawd.
Roedd hynny yn bennaf oherwydd un o'r prif fathau o ffliw oedd yn cylchredeg llynedd oedd straen H3N2, oedd yn cael mwy o effaith ar gleifion bregus a hŷn.
Roedd brechlyn y llynedd hefyd yn llai effeithiol yn erbyn y straen hwnnw.
O ganlyniad gwelwyd cynnydd mewn marwolaethau a phwysau ychwanegol ar wasanaethau fel meddygon teulu ac unedau brys.
'Cynyddu'r pwysau'
"Roedd y llynedd yn anarferol iawn," meddai Catherine Moore, ymgynghorydd firoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
"Roedd 'na gryn dipyn o ffliw math B, sydd ddim yn ymddangos yn aml, ond roedd llawer o straen H3N2 hefyd - a doedd y brechlyn y llynedd ddim yn cyfateb mor dda a byddem wedi hoffi i'r straen hwnnw.
"Felly roedd pobl oedd wedi derbyn y brechlyn yn mynd yn sâl ac yn mynd i'r ysbytai - roedd hynny'n sicr wedi cynyddu'r pwysau ar y gwasanaeth."
Mae'r rhai sy'n gyfrifol am y gwaith yn dadlau y bydd yr ymchwil yn helpu'r gwasanaeth iechyd i gynllunio ar gyfer gaeaf ac yn atgyfnerthu'r neges y dylai'r rheiny mewn grwpiau bregus dderbyn y cynnig i gael brechiad.
Ond maen nhw'n rhybuddio y gallai'r sefyllfa newid wrth i'r tymor fynd ymlaen wrth i straeniau'r ffliw newid neu os bydd straen annisgwyl yn dod i'r amlwg.
Llunio brechlynnau
Bydd yr ymchwil hefyd yn helpu arbenigwyr ffliw rhyngwladol i lunio'r brechlynnau fydd yn cael ei rhoi'r flwyddyn nesaf.
Bydd Sefydliad Iechyd y Byd yn penderfynu yn gynnar yn y flwyddyn newydd pa straeniau o ffliw ddylai gael eu cynnwys yn y brechlyn ar gyfer hemisffer y gogledd.
Mae brechlynnau ffliw yn cymryd tua chwe mis i'w cynhyrchu.
Fe ddatblygodd gallu'r tîm i wneud dadansoddiadau geneteg cyflym ar ôl iddyn nhw gael cyllid fel rhan o gynllun genomeg a meddygaeth fanwl y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Mae'r tîm hefyd wrthi yn defnyddio'r technegau er mwyn datblygu gwell profion diagnosis i gleifion â HIV a ffibrosis systig, yn ogystal â datblygu ffyrdd cyflymach o fonitro heintiau sy'n datblygu mewn ysbytai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018