Achos TB: Brwydr gyfreithiol ffermwr

  • Cyhoeddwyd
Hefin Owen
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafwyd Hefin Owen yn ddieuog o bob cyhuddiad yn ei erbyn

Mae ffermwr o Gastellnewydd Emlyn a'i deulu yn ceisio codi £100,000 ar gyfer brwydr gyfreithiol am iawndal yn erbyn DEFRA.

Fe gafwyd Hefin Owen yn ddieuog o bob cyhuddiad yn ei erbyn 'nôl ym mis Mawrth 2018, ar ôl cael ei gyhuddo o ymyrryd a chanlyniadau profion TB ei wartheg.

Fe gafodd Mr Owen ei erlyn gan Gyngor Ceredigion ar sail gwybodaeth gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion - yr APHA - sydd yn rhan o DEFRA.

Er i'r llys ei gael yn ddieuog, mae wedi gorfod gwerthu stoc i dalu costau: "Y peth mwyaf sydd wedi digwydd i mi oedd rhaid i ni werthu da godro ganol yr haf a defnyddio'r arian wedyn i dalu dyledion cwrt."

Mae'n dweud bod yr achos wedi costio £250,000 iddo, ac mae gwefan wedi ei sefydlu ar-lein i godi arian i'r teulu.

Mae wedi gorfod gwerthu pob un o'i wartheg godro dros yr haf, ac mae offer y parlwr godro hefyd wedi cael ei werthu.

'Gweithio ddydd a nos'

Roedd Mr Owen wedi ei gyhuddo o ymyrryd gyda'r canlyniadau profion TB ym mis Mai 2016 er mwyn rhoi canlyniad positif, ond fe'i gafwyd yn ddieuog.

Ychwanegodd Mr Owen: "Iawndal yw un darn, rydym moyn mynd a DEFRA i'r cwrt i gael nhw i sefyll lan dros be' maen nhw wedi neud, os ga'i nhw i'r cwrt gobeithio neith hyn ddim digwydd i neb 'to."

Dywedodd llefarydd ar ran DEFRA: "Mae ganddo ni y cynlluniau mwyaf trwyadl yn y byd i brofi am TB ynghyd a'r profion gorau sydd ar gael, mae peidio cydymffurfio a'r profion yn gallu tanseilio ymdrechion i waredu'r clefyd

"Mae pobl yn cael eu herlyn os oes tystiolaeth ddigonol o dwyllo."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae achosion o dwyll sy'n ymwneud â TB yn brin, ond pan mae 'na amheuaeth mae'r APHA yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i gasglu tystiolaeth cyn erlyn."