'Cynllunio er budd cenedlaethau'r dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
cynllunio

Datblygu lleoliadau sy'n cyfoethogi bywydau pobl yw canolbwynt polisi cynllunio newydd yn ôl Llywodraeth Cymru

Mae'n cynnwys gwaharddiad, i bob pwrpas, ar byllau glo newydd ac unrhyw gais i dyllu am nwy, gan gynnwys ffracio.

Bydd ceisiadau am byllau glo ond yn cael eu caniatáu "mewn amgylchiadau neilltuol".

Bydd Polisi Cynllunio Cymru yn cael ei lansio ddydd Mercher gan yr Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Dywedodd Ms Griffiths y bydd y polisi yn sicrhau fod gan Gymru "lleoedd sydd wedi'u cynllunio'n dda ac o fudd i genedlaethau'r dyfodol".

Cymru yw'r unig wlad yn y DU fydd yn mabwysiadu dull cynllunio o'r fath.

Targedau carbon

Daw'r polisi wedi i'r Cynulliad gymeradwyo targedau allyriadau carbon cyfreithiol ddydd Mawrth.

Fe fydd gofyn i gynghorau hysbysu gweinidogion Llywodraeth Cymru o flaen llaw am unrhyw geisiadau cynllunio y maen nhw'n bwriadu eu cymeradwyo am ddatblygiadau glo newydd.

Yn ôl y ddogfen: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau heriol i ddad-garboneiddio ac i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

"Nid yw tyllu am danwydd ffosil, gan gynnwys nwy shâl, methan glo na nwy glo tanddaearol, yn gydnaws â'r targedau yna."

Mae'r polisi hefyd yn galw ar i ddatblygiadau dibreswyl gael mannau gwefru i geir trydan mewn 10% o lefydd parcio.

Mae gofyn hefyd ar awdurdodau cynllunio i bennu ardaloedd lle bydd datblygiadau ynni gwynt a solar yn cael eu caniatáu a'u gosod.

Ychwanegodd Ms Griffiths: "Mae'n hanfodol fod datblygiadau heddiw, a fydd yno am flynyddoedd i ddod, yn gadael gwaddol o leoedd sydd wedi'u cynllunio'n dda ac yn gynaliadwy ac a fydd yn gwella bywydau pawb."

Mae mesurau eraill yn cynnwys galw am lwybrau cerdded a beicio i adnoddau lleol, ac os fydd datblygiad newydd yn cael eu codi yn agos i ganolfannau cerddoriaeth fe fydd rhaid gosod mesurau atal sŵn fel na fydd y canolfannau hynny yn destun cwynion gan drigolion newydd.

Daw hynny yn dilyn cais i godi fflatiau yn agos i Glwb Ifor Bach yng Nghaerdydd - cais a gafodd ei dynnu'n ôl yn y pen draw.