Ailfesuriad sy'n honni fod Foel Penolau yn fynydd
- Cyhoeddwyd
Yn swyddogol, bryn yw Foel Penolau sy'n rhan o fynyddoedd y Rhinogydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri nid mynydd.
Ond nawr mae dau gyfaill wedi defnyddio'r offer GPS diweddaraf, ac yn honni y dylai ei ailddynodi yn fynydd ar ôl gwneud mesuriad arall.
Mae dau faen prawf ar gyfer cael statws mynydd.
Er bod Foel Penolau yn cyrraedd un yn glir - sef bod dros 2,000 troedfedd o uchder - nid yw'n cyrraedd y llall, sef bod y bwlch rhyngddo a'r copa nesaf o leia 98 troedfedd yn is.
Ond nawr mae Myrddyn Phillips ac Aled Williams wedi ailfesur y bwlch a chanfod ei fod mewn gwirionedd yn 104.6 troedfedd yn hytrach na'r mesuriad gwreiddiol o 85 troedfedd.
Dim cydnabyddiaeth
Dywedodd Mr Phillips, sydd o'r Trallwng: "Mae'n un o'r bylchau yr ydw i ac eraill wedi ei fesur dros y blynyddoedd. Mae'n fwlch bendigedig."
Roedd Mr Phillips a Mr Williams yn amau y gallai fod y mesuriad yn wahanol gan fod y bwlch yn llawn cerrig anferth sy'n gallu symud.
Ym mis Awst fe gafodd Fan-y-Big ym Mannau Brycheiniog ei israddio o fynydd i fryn wedi i Mr Phillips ailfesur y bwlch yno a chanfod ei fod mewn gwirionedd yn llai na 98 troedfedd, felly mae'n gweithio'r ddwy ffordd.
O ganlyniad i'r arolwg mae'r mynydd wedi ei gynnwys ar restr Hewitts - y tro cyntaf i fryn yng Nghymru dderbyn y statws ers cyhoeddi'r rhestr gyntaf yn 1992.
Ond dywedodd llefarydd ar ran yr Arolwg Ordnans: "Nid yw'r data sydd wedi ei gasglu yn dilyn ein dulliau pennu mesuriadau penodedig."
Maen nhw'n gwrthod cydnabod y newid ar hyn o bryd felly, a doedd Parc Cenedlaethol Eryri ddim am wneud sylw ar y mater ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2018