Foel Penolau... ac enwau doniol eraill

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Plwmp
Disgrifiad o’r llun,

Plwmp - dyma sut bydd pawb yn teimlo ar ôl y Nadolig

Mae'r enw difyr Foel Penolau wedi tynnu ein sylw yr wythnos hon wrth i ddau ddyn honni y dylai'r foel yn Eryri gael ei chofrestru fel mynydd ar ôl iddyn nhw ei mesur yn ddiweddar.

Er anrhydedd i enw'r foel, dyma restr blentynnaidd iawn Cymru Fyw o rai enwau llefydd eraill sydd yn ein ticlo ni. Oes gennych chi ragor?

1. Yr As Fawr

Ar yr un thema â Moel Penolau efallai, dyma'r enw Cymraeg am Monknash ym Mro Morgannwg. Yn dydi ieithoedd yn gallu bod yn ddiddorol?

2. Llanwrin

Pentref ger Machynlleth yn y canolbarth. Nid cyfeiriad at y diffyg tai bach cyhoeddus ar briffyrdd Cymru ond pentref wedi ei enwi ar ôl y Sant Gwrin, mae'n debyg.

Ffynhonnell y llun, Jeremy Bolwell / Geograph

3. Pentrecagal

Swnio'n anghyfforddus ond mae Pentrecagal yn agos i Gastellnewydd Emlyn a ddim ymhell o'r Amgueddfa Wlân yn Drefach, Felindre. Dim adlewyrchiad ar ansawdd y gwlân ddefnyddiwyd i wneud ein carthenni traddodiadol dros y canrifoedd gobeithio.

4. Plwmp

Mae bron yn amhosib gyrru heibio i'r pentref yma yng Ngheredigion heb ddweud yr enw'n uchel, gyda gwên. Yn blwmp ac yn blaen, yr ystyr am y pentref mae'n debyg ydy pwmp dŵr oedd ar fuarth fferm yn wreiddiol.

5. Cwm Selsig

Os hoffech fynd i brofi rhyfeddodau Cwm Selsig mae'n lle braf i fynd am dro uwch ben y Rhondda ac mae Nant Selsig yn rhedeg drwyddo. Allwn ni ddim cadarnhau os yw'n lle da am farbeciw.

6. Farteg

Dim byd yn bod os ydych chi'n dweud yr enw yma yn Gymraeg ond yn 2013 cododd nyth cacwn am ddefnyddio'r enw Cymraeg am Varteg ar arwyddion ffyrdd Cyngor Torfaen gan fod y trigolion yn poeni y byddai pobl ddi-Gymraeg yn chwerthin am ben eu pentref wrth ddarllen yr enw.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn awgrymu Y Farteg fel yr enw Cymraeg, dolen allanol.

Gallai fod yn waeth - gallen nhw fod yn byw yn Pratt's Bottom yn Llundain.

7. Penisa'r-waun

Hen glasur ond un sy'n dal i achosi problemau i drigolion y pentref ger Caernarfon o bryd i'w gilydd wrth iddyn nhw geisio sillafu eu cyfeiriad yn Saesneg dros y ffôn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na sawl sillafiad ar arwyddion y pentref ger Caernarfon ond mae'r pump llythyren gyntaf yna wastad yr un peth...

8. Sili

Ychydig bach fel y rhestr yma... Dyma'r enw Cymraeg am Sully sydd rhwng Penarth a'r Barri ym Mro Morgannwg. Mae o bosib yn dod o'r enw Normanaidd de Sully ac mae 'na enwau eraill â 'sili' ynddyn nhw, fel Rhosili a Silian.

9. Y Cocyd

Dyma'r enw am gymuned sy'n rhan o Abertawe - Cockett yn Saesneg. Fydden ni ddim yn argymell gweiddi'r enw'n uchel ar Wind Street ar nos Sadwrn yn y ddinas, rhag ofn i rywun gamddeall.

10. Rhyd y Blew

Mae Rhyd y Blew ger Glynebwy, nid nepell o gylchdro ffyrdd Bryn Serth a Waun-y-Pound. Oedd gan bawb oedd yn byw yma farf ar un adeg? Neu oedd 'na beth wmbreth o siopau torri gwallt yma?

Ydych chi'n gallu meddwl am fwy o enwau doniol? Gadewch inni wybod!

Hefyd gan y BBC