Cyhoeddi gemau cyfeillgar tîm pêl-droed merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jayne LudlowFfynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jayne Ludlow ei henwi fel Hyfforddwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru nos Fawrth

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi gemau cyfeillgar tîm Merched Cymru ar gyfer chwe mis cyntaf 2019.

Bydd merched Cymru yn dechrau'r flwyddyn gyda gem oddi cartref yn erbyn yr Eidal - a drechodd tîm Jayne Ludlow o 3-0 yng Nghwpan Cyprus y llynedd.

Mae Ms Ludlow, gafodd ei henwi fel Hyfforddwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru nos Fawrth, wedi penderfynu peidio cymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni.

Yn hytrach bydd Merched Cymru yn hedfan i Malaga am gyfnod o hyfforddi ym mis Chwefror, yn ogystal â gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Ni fydd y tîm yn dychwelyd i chwarae yng Nghymru tan iddyn nhw herio'r Weriniaeth Tsiec ddwywaith ym mis Ebrill.

Bydd lleoliadau'r gemau cartref yn cael eu cadarnhau yn ddiweddarach.

Rhestr y gemau yn llawn:

  • Yr Eidal v Cymru - 22 Ionawr

  • Gweriniaeth Iwerddon v Cymru - 28 Chwefror

  • Cymru v Y Weriniaeth Tsiec - 4 Ebrill

  • Cymru v Y Weriniaeth Tsiec - 7 Ebrill