Cwrdd â theulu newydd Deian a Loli

  • Cyhoeddwyd
Deian a Loli a'u rhieniFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Teulu newydd byd hud Deian a Loli

Ribidirew! Mae 'na hud arbennig wedi digwydd ac mae 'na actorion newydd yn chwarae rhannau Deian a Loli yn un o gyfresi poblogaidd S4C i blant.

Allan o 600 o blant Cymru gafodd eu hystyried am y rhannau, Gwern Rhys Jones o Lanrug a Lowri Anes Jarman o Lanuwchllyn gafodd eu dewis i actio'r efeilliaid direidus sy'n gallu rhewi amser.

Gŵr a gwraig go iawn, Rhian Blythe a Simon Watts, sy'n chwarae rhan Mam a Dad.

Cyn rhagddangosiadau arbennig o'r cyfresi cyntaf sy'n dechrau ar Ragfyr 23 ym Mangor a Chaerfyrddin, camodd BBC Cymru Fyw i'w byd o hud i gwrdd â'r teulu newydd.

Bydd y gyfres newydd yn dechrau ar S4C fis Ionawr 2019.

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Plant gwahanol, ond yr un pwerau hud i rewi amser

Gwern Jones - Deian

Sut deimlad oedd cael dy ddewis allan o'r 600 o blant gafodd eu gweld gan y cynhyrchwyr?

Oedd o'n syndod! Pan ddaeth y llythyr o'n i'n gegrwth!

Oeddet ti wedi actio o'r blaen?

Dim o gwbl, ella mewn sioe Dolig ysgol neu rwbath ond dim fel arall. I fod yn onest o'n i ddim yn gwybod ar gyfer be' oedd y clyweliad pan ddaeth y cynhyrchwyr i'r ysgol.

Ro'n i a'n ffrindiau yn meddwl ella' mai rhywbeth i wneud efo Steddfod yr Urdd oedd o.

Wedyn nes i glywed bo' fi 'di mynd i'r ail glyweliad efo'n ffrindiau, a doedden ni'n dal ddim yn gwybod be' oedd o tan 'nathon nhw roi sgripts inni ddysgu.

Ro'n i wedi clywed am Deian a Loli o'r blaen oherwydd roedd y Loli cynt [Erin Gwilym] yn dod o'r un ysgol â fi.

Ydy'r ffilmio yn gymaint o hwyl ag mae'n edrych?

Faswn i'n dweud bod o'n fwy o hwyl i'w ffilmio - dwi jyst yn mwynhau bob eiliad! 'Da ni'n mynd i lefydd gwahanol a mae'r sgrîn werdd yn gallu gwneud o lot o bethau.

Dim ond 11 munud ydy bob pennod a fel arfer rydyn ni'n cymryd tridiau i'w ffilmio fo i gyd a mae o'n hwyl i'w wneud - oherwydd dwi'n cael mynd i lefydd yn y byd hud o'n i ddim yn meddwl 'swn i byth yn mynd.

Pe tasai gen ti'r pŵer i rewi rywun neu rywbeth, beth fyset ti'n ei wneud efo fo?

Fyswn i'n rhewi fy mrawd sydd ddwy flynedd yn hŷn na fi er mwyn cael llonydd - mae'n gallu mynd ar fy nerfau i'n aml iawn achos mae'n tynnu arna' i, fel mae brodyr yn ei wneud.

Lowri Jarman - Loli

Sut brofiad oedd y ffilmio?

Roedd y ffilmio yn waith caled ond mi wnes i fwynhau bob eiliad a chael andros o hwyl.

Sut gest ti'r rhan? Oeddet ti wedi gwylio'r rhaglen o'r blaen?

Ro'n i 'di gwylio'r rhaglenni hefo fy mrawd bach ac wedi eu mwynhau. Dyma ffrind i fi'n sôn bod nhw'n chwilio am Deian a Loli newydd ac mi dries i am y rhan a bod yn ddigon lwcus i gael clyweliad.

Ro'n i'n teimlo'n ofnadwy o hapus ac andros o lwcus pan glywais i mod i wedi cael y rhan. Roedd 'na ran ohona i'n nerfus a rhan ohona i'n gyffrous iawn!

Pa fyd hud rwyt ti wedi ei ffilmio hyd yma ydy dy ffefryn di?

Nes i fwynhau llond lle o hufen iâ yn Hafan iâ!

Pe tasai gen ti'r pŵer i rewi rywun neu rywbeth, beth fyset ti'n ei wneud efo fo?

Mi faswn i wrth fy modd yn rhewi amser achos 'dw i'n hwyr i bob man! Mae 'na ambell beth reit debyg rhwng Loli a fi ond mi fyse hi'n braf cael pwerau hud i chware triciau!

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n gobeithio ein bod ni'n fwy o hwyl na'r rhieni ar Deian a Loli ac y baswn i'n licio mynd i'r byd hud efo'r plant!" meddai Rhian Blythe sy'n actio Mam gyda'i gŵr go iawn, Simon Watts

Simon Watts - Dad

Oedd hi'n rhyfedd camu i sgidiau Sian Beca a Carwyn Jones [y rhieni gwreiddiol]?

Roedd Rhian a fi yn poeni am gamu i'w 'sgidiau nhw.

Am fod y cyfresi cyntaf mor boblogaidd mae disgwyliadau i'r teulu newydd ond 'dyn ni jyst yn trio gwneud ein gorau a gwneud beth ydyn ni'n gallu a pheidio meddwl gormod am y peth.

Mae'r deinamig yr un peth, mae Deian a Loli dal yn Deian a Loli ond fel plant gwahanol. Mae 'na glip fydd yn pontio'r ddwy gyfres - ffilm fer sy'n esbonio'r newidiau i'r plant newydd.

Ond ro'dd yn lot o hwyl a chael cyfle i fynd fel teulu i'r gogledd i neud y jobyn, fi a Rhian a'n dau o blant, Lewsyn a Mati.

Sut brofiad ydy actio gŵr a gwraig?

Roedd yn od i ddechrau. Na'thon ni gwrdd ein gilydd ar ddrama lwyfan gyda'r Theatr Genedlaethol 10 mlynedd yn ôl, ond dydyn ni ddim wedi gweithio gyda'n gilydd ers hynny.

Roedd bach yn rhyfedd gadael y plant yn y tŷ gyda'r nani, a'r ddau ohonyn ni'n mynd mewn i'r car i'r gwaith i warchod plant pobl eraill - roedd y paralels bach yn rhyfedd!

Sut ydych chi'n aros yn llonydd mor hir wrth gael eich 'rhewi'?

Roedd hwnna'n gwestiwn i Rhian a finne pan ddechreuon ni, ond rydyn ni'n rhewi go iawn - weithiau am gyfnod o tua dau i dri munud.

Mae'n ychydig o ymdrech peidio blincio - mae'n anoddach na beth ydych chi'n meddwl!

Pe tasai gen ti'r pŵer i rewi rywun neu rywbeth, beth fyset ti'n ei wneud efo fo?

Fi'n meddwl falle fysen i'n rhewi mhlant fy hunan weithiau jyst i gael bach o lonydd a diflannu gyda ngwraig i gael pryd o fwyd a gallu dod nôl yn gwybod eu bod nhw'n ddiogel!

Mam - Rhian Blythe

Pa mor wahanol i rieni Deian a Loli ydych chi fel rhieni?

Dwi'n gobeithio ein bod ni'n fwy o hwyl na'r rhieni ar Deian a Loli ac y baswn i hefyd yn licio mynd i'r byd hud efo'r plant!

Pwy ydi'r gorau am rewi yn ei unfan?

Mae Simon yn well na fi am rewi! Dydyn nhw ddim yn dal y camera yn hir hir arnon ni, ond dwi'n ffeindio fo'n anodd, dwi'n blincio lot mwy na faswn i mewn bywyd go iawn jyst achos mod i'n gwybod mod i ddim yn cael.

Ond maen nhw'n rhoi'r hud rowndan ni wedyn ac mae hwnna'n ryw fath o guddio dipyn o'r symud!

Faint o gyngor oeddech chi'n gallu ei roi i Lowri a Gwern?

Doedd dim lot o ofyn am gyngor, roeddan nhw mor dda.

Do'n i ddim yno am y tair wythnos gyntaf am mod i'n ffilmio rhywbeth arall ac erbyn i mi gyrraedd roedden nhw'n hen lawiau arni a fi oedd yr un nyrfys.

Roedden nhw i gyd yn gartrefol iawn efo'i gilydd. Maen nhw'n dod ymlaen efo'i gilydd yn dda iawn, maen nhw'n dîm bach ac yn gwneud i'w gilydd chwerthin.

Oeddech chi'n poeni am gamu i mewn i gyfres mor llwyddiannus?

Yn bendant. 'Dan ni'n ffans yn tŷ yma - mae gynnon ni hogyn sy'n dair mlwydd oed erbyn hyn ac ers mae o tua blwydd oed mae o 'di bod yn ein ribidirewi ni - heb y geiriau ond jyst drwy dweud 'iaaa!', a ninnau'n gorfod rhewi.

Felly mae'n eitha' brawychus ond fedri di ddim meddwl gormod am hynny.

Pe tasai gen ti'r pŵer i rewi rywun neu rywbeth, beth fyset ti'n ei wneud efo fo?

Dwi'n meddwl ella o bryd i'w gilydd y baswn i'n rhewi fy mhlant i fi gael mynd allan.

Dyna ddywedodd Simon hefyd...

O diar, rhieni gwael!

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd y gyfres gyntaf wobr BAFTA Cymru. Dyma'r actorion Sian Beca, Carwyn Jones, Erin (Loli) a Moi (Deian) yn seremoni BAFTA Cymru

Efallai o ddiddordeb: