Hen ffilmiau a chyfresi S4C i fod ar gael ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Shan CothiFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfres gyntaf Con Passionate (2005) ar gael ar S4C Clic

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd detholiad o hen gyfresi a ffilmiau poblogaidd y sianel ar gael i'w gwylio ar wasanaeth ar-alw.

Bydd gwylwyr yn gallu edrych ar 'box sets' fel Con Passionate, Nyth Cacwn a 35 Diwrnod ar S4C Clic, dolen allanol am y tro cyntaf o 15 Rhagfyr.

Bydd hefyd modd gwylio ffilmiau fel Porc Pei, Hedd Wyn, Tair Chwaer - Cymer Dy Siâr, ac Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig.

Dywedodd y sianel y bydd rhagor o raglenni yn cael eu hychwanegu i Clic yn y flwyddyn newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Porc Pei - gyda Sion Trystan yn chwarae rhan Kenneth Parry - ei rhyddhau yn 1998

Bydd rhaglenni ar gael i'w gwylio am 150 diwrnod a bydd hefyd modd gwylio rhaglenni newydd ar Clic cyn eu bod nhw'n cael eu darlledu ar y teledu am y tro cyntaf.

'Pwysig iawn i ddatblygiad S4C'

"Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan mae teuluoedd yn dod at ei gilydd i wylio eu hoff raglenni a ffilmiau, ac rydym yn falch iawn i lansio gwasanaeth boxsets Clic yn ystod cyfnod yr ŵyl," meddai Owen Evans, prif weithredwr S4C.

"Mae'r ffordd mae pobl yn gwylio ein cynnwys wedi gweddnewid ac mae'n bwysig bod ein rhaglenni ar gael i'w gwylio ar lwyfannau digidol.

"Mae defnyddwyr S4C Clic nawr yn gallu gwylio hen gyfresi S4C a rhai newydd mewn ffurf box-set ac mae hynny'n bwysig iawn i ddatblygiad y gwasanaeth."