Colin Jackson yw canghellor newydd Prifysgol Glyndŵr

  • Cyhoeddwyd
Colin JacksonFfynhonnell y llun, Prifysgol Glyndwr Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rôl Colin Jackson fel canghellor yn un llysgenhadol, gan lywyddu seremonïau graddio a digwyddiadau

Y cyn-athletwr Colin Jackson yw canghellor newydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Fel rhan o'r swydd, fe fydd Mr Jackson yn llywyddu seremonïau graddio a digwyddiadau eraill ar gampws y brifysgol.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam Glyndŵr, yr Athro Maria Hinfelaar eu bod "wrth eu boddau i groesawu Colin Jackson".

"Bydd Colin yn ffigwr ysbrydoledig i'n myfyrwyr a graddedigion, beth bynnag yw eu pwnc nhw," meddai.

"Rydym hefyd am ei gynnwys yn ein gweithgareddau i gefnogi'r gymuned, ac yn gobeithio ei ddenu i ogledd Cymru'n aml."

Barod i 'dorchi llewys'

Cafodd Mr Jackson ei eni yng Nghaerdydd, ac ers ymddeol o'i yrfa athletaidd, symudodd i fyd darlledu.

Derbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam am ei wasanaeth i'r byd chwaraeon yn 2016.

Yn ôl Mr Jackson, mae'n "anrhydedd ac yn wefr" ymgymryd â'r swydd.

"Mae'r brifysgol yn rhagori mewn nifer o bethau dwi'n credu ynddyn nhw, fel cyfranogiad cymdeithasol, a dwi'n edrych 'mlaen at dorchi llewys yn fy rôl newydd," meddai.

Bydd cyfnod Trefor Jones CBE CVO fel canghellor yn dod i ben ym mis Ionawr 2019 a bydd seremoni urddo Mr Jackson ym mis Chwefror.