Galw am ymchwiliad annibynnol i lofruddiaeth Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
davidsonFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Davidson ei ddedfrydu i garchar am oes, gyda lleiafswm o 23 mlynedd dan glo

Ni chafodd manylion carcharor a gafodd ei arestio dyddiau cyn llofruddio dyn anabl eu pasio gan yr heddlu i'r gwasanaethau prawf am bum diwrnod.

Cafodd Nicholas Churton, 67 oed, ei ymosod a'i ladd gan Jordan Davidson yn ei fflat yn Wrecsam ar 23 Mawrth 2017, cyn i'r corff gael ei ddarganfod pedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Roedd ei anafiadau'n gyson â rhai oedd wedi cael eu hachosi gan machete a morthwyl.

Roedd Davidson wedi'i arestio ar amheuaeth o ladrata a bod â chyllell yn ei feddiant ar 19 Mawrth.

Ond ni chafodd y cwmni preifat oedd yn gofalu am droseddwyr wybod am yr achos nes tridiau cyn y llofruddiaeth.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw'n cydweithredu â'r ymchwiliad i'r achos.

Cafodd Davidson ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei gyhuddo, ac mae BBC Cymru wedi gweld tystiolaeth ei bod hi wedi cymryd diwrnodau i'r digwyddiad gael ei basio 'mlaen i'r gwasanaeth prawf.

Cyflwynwyd y dystiolaeth newydd gan AS Wrecsam, Ian Lucas, wnaeth gwrdd â'r Gweinidog dros Garchardai, Rory Stewart, ddydd Mercher er mwyn mynnu ymchwiliad annibynnol i'r achos.

Yn ôl Mr Lucas, fe wnaeth y gweinidog dderbyn bod methiannau wedi bod yn yr achos, ond mynnodd fod gwelliannau wedi eu gwneud i'r ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei rannu.

Mae Mr Lucas hefyd wedi cytuno i aros tan fod yr ail ymchwiliad wedi ei gwblhau cyn penderfynu gwthio am ymchwiliad cyhoeddus ai peidio.

'Camgymeriad ofnadwy'

Dywedodd Mr Lucas fod yr heddlu wedi pasio'r wybodaeth i Gwmni Ailsefydlu Cymunedol (CRC) pum diwrnod ar ôl i Davidson gael ei arestio, a thridiau cyn llofruddiaeth Mr Churton.

"Mae hyn yn achosi pryder am ddau reswm... a wnaeth unrhyw un wirio gyda'r CRC cyn ei ryddhau?" gofynnodd Mr Lucas.

"Yr ail gwestiwn yw, pam gafodd o ei ryddhau ar fechnïaeth yn y lle cyntaf, wrth ystyried ei gefndir a'i ymddygiad? Roedd hynny wir yn gamgymeriad ofnadwy."

Mae Mr Lucas wedi galw am ymchwiliad annibynnol yn y gorffennol, ond cafodd y cais gwreiddiol ei wrthod.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Nicholas Anthony Churton yn ei gartref ar 27 Mawrth

Cafodd Davidson ei ddedfrydu i garchar am oes, gyda lleiafswm o 23 mlynedd dan glo am lofruddio Mr Churton.

Yn ogystal â phledio'n euog i lofruddio, cafwyd yn euog o sawl trosedd arall gan gynnwys byrgleriaeth, lladrad, a cheisio achosi niwed corfforol difrifol a gwir niwed corfforol i swyddogion heddlu.

Cafodd mwyafrif y troseddau hyn eu cyflawni yn y dyddiau cyn ac ar ôl y llofruddiaeth.

Mae brawd Mr Churton, James, yn honni y byddai ei frawd dal yn fyw petai'r heddlu a'r gwasanaethau prawf wedi ymateb yn gynt.

"Mae'r heddlu a'r gwasanaeth prawf, oedd yn 'nabod y dyn yma, wedi gadael iddo fynd," meddai.

"Dylai ef wedi mynd yn syth 'nôl i'r carchar ond fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth gan alluogi iddo gyflawni cyfres o droseddau - gan gynnwys llofruddio fy mrawd."

Disgrifiad o’r llun,

Credai James Churton ei bod hi'n "anhygoel" fod dyn fel Jordan Davidson wedi cael ei ryddhau yn y fath amgylchiadau

Roedd Mr Lucas wedi gofyn i Heddlu Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr i egluro pam fod Davidson wedi cael ei ryddhau er iddo gael ei gyhuddo.

Yn ôl yr AS, nid oedd yr heddlu yn fodlon ymateb gan fod y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio'r ffordd yr oedd y llu wedi ymdrin â Davidson ar y pryd.

Ond, daeth i'r amlwg fod yr ymchwiliad hwnnw yn edrych ar gyswllt yr heddlu gyda Mr Churton cyn ei lofruddiaeth, a'u bod wedi dod i'r canlyniad fod hi'n bosib i'r swyddogion fod wedi gwneud camgymeriadau.

Nid yw'r ail ymchwiliad, sy'n yn edrych ar gyswllt yr heddlu gyda Davidson ar ôl iddo'i ryddhau o'r carchar, wedi ei gwblhau.

'Barod i gyfrannu at ymchwiliad'

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Dan Tipton: "Dwi'n deall fod hyn yn anodd iawn i deulu Mr Churton, ac yn deall pam ei bod hi'n bwysig iddyn nhw ddeall yr amgylchiadau arweiniodd at ei farwolaeth yn llawn.

"Ond, tan fod ymchwiliad yr IOPC wedi ei gwblhau, a bod yr adroddiad llawn yn ein meddiant nid oes modd i ni wneud sylw pellach."

Yn ôl yr IOPC, maen nhw'n gweithio tuag at gwblhau'r ail ymchwiliad, ond eu bod nhw'n "barod i helpu os oes angen iddyn nhw gyfrannu at ymchwiliad cyhoeddus neu gwest yn y dyfodol".

Ychwanegodd Catrin Evans, Cyfarwyddwr yr IOPC ar gyfer Cymru, eu bod hi wedi cytuno i gwrdd â Mr Lucas yn y dyfodol er mwyn trafod y darganfyddiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Byddwn ni yn parhau i gefnogi'r IOPC gyda'u hymchwiliad presennol, ac yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru er mwyn gwella'r ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei rannu mewn modd amserol."