Cymeradwyo sganiau MRI i ddarganfod canser y brostad
- Cyhoeddwyd
Mae sganiau MRI i brofi am ganser y brostad wedi eu cymeradwyo ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd.
Cafodd y sganiau eu peilota mewn tair ardal, ond galwodd ymgyrchwyr ar gyfer eu cynnig i gleifion dros Gymru.
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi cymeradwyo defnydd sganiau yn hytrach na biopsi - all fod yn boenus.
Dywedodd NICE bod y sganiau yn opsiwn cost effeithiol sy'n gallu darganfod sawl math o ganser.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae byrddau iechyd yn paratoi ar gyfer y newid cyn i NICE roi'r gymeradwyaeth derfynol y flwyddyn nesaf.
Mae'n gallu bod yn anodd rhoi diagnosis o ganser y brostad, sy'n effeithio un mewn naw o ddynion Cymru, ac fe allai'r profion presennol fod yn boenus.
Mae'r dull newydd - MRI amlberametrig (mpMRI) - yn cyfuno tri math o sgan er mwyn rhoi darlun cliriach o'r corff, ac yna fe all arbenigwyr benderfynu os oes angen biopsi.
'Ofnadwy o boenus'
Mae Alwyn ap Huw, o Lansanffraid Glan Conwy, wrthi'n cael triniaeth radiotherapi am ganser y brostad.
Cafodd fiopsi, ond gan ei fod hefyd yn byw ag epilepsi, penderfynodd y meddygon atal y prawf ar ei hanner rhag iddo gael ffit.
Dywedodd: "Dwi ddim yn meddwl 'mod i wedi brifo cymaint yn fy mywyd, a dim ond ychydig bach o'r prawf gefais i.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael rhwng 10 a 12 pigiad, a dim ond trio rhoi tri wnaethon nhw i mi. Roedd o'n ofnadwy o boenus."
'O fudd i gleifion'
Roedd y sganiau ar gael gan fyrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Aneurin Bevan a Chwm Taf fel rhan o'r cynllun peilot.
Mae cymeradwyaeth ddrafft NICE yn golygu ei fod yn debygol y bydd y corff yn rhoi sêl bendith yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd un o gyfarwyddwyr NICE, Paul Chrisp, ei fod yn gobeithio y byddai'r diagnosis newydd yn "gwella goroesiad, lleihau llawdriniaeth ddiangen a bod o fudd i gleifion a'r GIG yn y tymor hir".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018