Carcharu dau am dreisio a masnachu pobl at ddibenion rhyw

  • Cyhoeddwyd
John Purcell a John DelaneyFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Purcell a John Delaney eu dedfrydu i garchar yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau

Mae dau ddyn wnaeth gymryd merched o gartref gofal a'u masnachu er mwyn eu hecsploetio yn rhywiol wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 28 mlynedd.

Roedd John Purcell, 33, a John Delaney, 31, eisoes wedi'u cael yn euog o gyfres o droseddau yn erbyn y ddwy ferch o Wrecsam, gan gynnwys treisio ac ymosodiad rhyw.

Cafodd Purcell, o Ellesmere Port, a Delaney, o Wrecsam, eu dedfrydu i 14 mlynedd o garchar yr un.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, Rhys Rowlands, bod y troseddau yn rhai "difrifol iawn".

'Dewrder i roi tystiolaeth'

Cafwyd Purcell yn euog o ddau gyhuddiad o dreisio merch 15 oed a phedwar cyhuddiad o fasnachu pobl at ddibenion camfanteisio'n rhywiol rhwng Rhagfyr 2011 ac Ebrill 2012.

Fe gafwyd Delaney yn euog o ddau gyhuddiad o dreisio, un cyhuddiad o ymosodiad rhyw a thri chyhuddiad o fasnachu pobl er mwyn camfanteisio yn rhywiol.

Roedd trydydd dyn - Todd Wickens, 28 oed o Wrecsam - yn wynebu tri chyhuddiad, ond fe benderfynodd y llys ei fod yntau'n ddieuog o fasnachu pobl a threisio.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Alun Oldfield ei fod eisiau diolch i'r dioddefwyr am "gael y dewrder i roi tystiolaeth yn erbyn y dynion yma".

"Gobeithio y gall y dioddefwyr symud ymlaen gyda'u bywydau gan wybod bod y pedoffiliaid yma dan glo."